Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
AD11320
Module Title
Plant Ifainc yn Dysgu
Academic Year
2015/2016
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Lecture 10 x Darlithoedd 1 Awr
Workshop 1 x Gweithdy 7 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Aseiniad - Traethawd 1200 o eiriau  Rhaid ail-wneud pob elfen o'r asesiadau a fethir os yw cyfartaledd marciau'r myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol o 40 %.   30%
Semester Assessment Portffolio  DBS 1 x portffolio wedi'i seilio ar arsylwi - 2800 o eiriau NEU Dim DBS 1 x Aseiniad arall arall (2000 o eiriau ar rol oedolyn, dadansoddiad ymarferol 800 gair o fideo (ar gael cyn cyflwyno)   70%
Supplementary Assessment Aseiniad - Traethawd 1200 o eiriau  Rhaid ail-wneud pob elfen o'r asesiadau a fethir os yw cyfartaledd marciau'r myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol o 40 %.   30%
Supplementary Assessment Portffolio  2800 o eiriau NEU Dim DBS 1 x Aseiniad arall arall (2000 o eiriau ar rol oedolyn, dadansoddiad ymarferol 800 gair o fideo (ar gael cyn cyflwyno).   Rhaid ail-wneud pob elfen o'r asesiadau a fethir os yw cyfartaledd marciau'r myfyriwr yn is na'r marc pasio gofynnol o 40 %.   70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth effeithiol o'r ffordd y mae plant ifanc yn dysgu a'r dulliau priodol o'u haddysgu.

Gwerthuso yn feirniadol yr holl agweddau ar ddulliau dysgu ac addysgu sy'n addas i blant ifanc.

Llunio dadleuon rhesymegol wrth drafod materion sy'n ymwneud a phlant ifanc yn dysgu.

Dangos gallu i ddefnyddio deunydd o ffynonellau perthnasol mewn modd cymwys.

Brief description

Mae'r rhan gyntaf yn berthnasol i'r "Lleoliad Cyn-ysgol" (plant 3-5 oed) ac mae'n cynnwys trafodaeth o'r gwahanol fathau o ddarpariaeth, natur yr amgylchedd dysgu cyn-ysgol, pwysigrwydd chwarae a swyddogaeth asiantaethau cynorthwyol. Bydd cyfran o seminarau'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.
Mae'r ail ran yn berthnasol i "Leoliad y Babanod" (plant 5-7 oed) ac mae'n cynnwys trafodaeth o'r rhan berthnasol o'r "Cwricwlwm Cenedlaetho", natur yr amgylchedd dysgu a pherthnasedd y "Cod Ymarfer, Adnabod ac Asesu Anghenion Arbennig" yn y cyd-destun hwn.
Yn ogystal a'r darlithoedd, bydd pob myfyriwr yn ymweld a chylch chwarae neu feithrinfa leol (un ymweliad - dros dau ddiwrnod) i gael profiad ac i arsylwi ar blant yn chwarae. Mae'r ymweliad ymarferol hwn yn elfen bwysig o'r cwrs, a bydd yn cyffwrdd a nifer o'r agweddau sy'n cael eu trafod ar y cwrs.

Content

Ceir darlithoedd ar y pynciau canlynol:
Darlith 1: Trosolwg hanesyddol - datblygiad addysg cyn-ysgol - y ddeddfwriaeth berthnasol a'r unigolion allweddol. Fideo - "Gwahoddiad i Chwarae" Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru.
Darlith 2: Gwahanol fathau o ddarpariaeth cyn-ysgol, gwirfoddol, statudol a phreifat. Gwahaniaethau mewn steil, pwyslais a threfniadaeth, cyfranogiad rhieni a darpariaeth ar gyfer anghenion arbennig.
Darlith 3: Y Canlyniadau Dymunadwy a'r Nodau Dysgu Cynnar - y goblygiadau i'r Rhaglen Blynyddoedd Cynnar.
Darlith 4: Trefnu sesiwn cyn-ysgol, yr angen am weithgareddau chwarae rhydd a strwythuredig i ddiwallu anghenion plant o wahanol oedrannau, cyfnodau, cefndir a phrofiad, cymhareb oedolion/plant a swyddogaeth oedolion, cynnwys y gymuned.
Darlith 5: Datblygiad llythrennedd cynnar - datblygiad ieithyddol a'r defnydd o iaith, llyfrau, rhigymau a straeon, profiadau cynnar o ddarllen ac ysgrifennu.
Darlith 6: Datblygiad dealltwriaeth plentyn o'r byd - adnabod nodweddion o'r amgylchedd lleol, gwahaniaethu rhwng y gorffennol a'r presennol, cyfathrebu eu darganfyddiadau drwy gyfrwng siarad, lluniau neu siartiau syml a dylunio, gwneud a defnyddio detholiad o ddeunyddiau a chydrannau.
Darlith 7: Cwricwlwm y babanod - yng nghyd-destun Meini Prawf y Cwricwlwm Cenedlaethol. Perthnasedd y dull integredig o feithrin dysgu, datblygu agweddau, sgiliau a chysyniadau.
Darlith 8: Paratoi ar gyfer ymweliad cyn-ysgol, arsylwi ar blant yn chwarae - siarad ac uniaethu a phlant ifanc a chymryd rhan yn y chwarae.
Darlith 9: Sefydlu cysylltiadau gydag asiantaethau cynorthwyol e.e. NSPCC, Lles Plant, y gwasanaethau cymdeithasol, y seicolegydd plant, gweithio mewn partneriaeth yn unol a Deddf Plant 1989.
Darlith 10: Canolbwyntio ar y Cod Ymarfer - darparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig, corfforol, emosiynol a deallusol mewn lleoliadau cyn-ysgol, ystafelloedd dosbarth prif-ffrwd ac unedau neu ysgolion arbennig. Ystyriaeth o adnoddau, trefn ystafelloedd dosbarth a'r adrannau perthnasol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Seilir seminarau ar y canlynol:
Seminar 1: Dod i adnabod ein gilydd - cofio'n profiadau cyn-ysgol ein hunain.
Seminar 2: Chwarae
Seminar 3: Cyfnod Sylfaen yng Nghymru I
Seminar 4: Cyfnod Sylfaen yng Nghymru II
Seminar 5: Trefnu sesiwn cyn-ysgol
Seminar 6: Sgiliau llythrennedd
Seminar 7: Hanes a daearyddiaeth yng Nghwricwlwm y Babanod
Seminar 8: Ymweliadau Cyn-ysgol
Seminar 9: Athro Babanod effeithiol
Seminar 10: Darparu ar gyfer plant ag anghenion arbennig.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Communication Mae technegau cyfathrebu'n elfen allweddol drwy gydol y darlithoedd a'r seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau'r seminarau. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol yr asesiadau ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Gweithgareddau'r seminarau ac adborth ar waith a asesir.
Information Technology Anogir y myfyrwyr i wneud eu haseiniadau ar brosesydd geiriau.
Personal Development and Career planning Cyfle i arsylwi mewn lleoliad cyn-ysgol.
Problem solving Elfen hanfodol o'r broses asesu beirniadol.
Research skills Chwiliadau llyfryddiaethol.
Subject Specific Skills Sut y mae plant yn dysgu.
Team work Mae gweithgareddau'r seminarau'n cynnig nifer o gyfleoedd i wneud gwaith tim, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a dadleuon.

Notes

This module is at CQFW Level 4