Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA22420
Teitl y Modiwl
Gwaith Maes Daearyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
GG22420

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 4 x Gweithdai 4 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os na fydd myfyriwr yn mynychu?r cyfnod o waith maes, a hynny heb reswm da, yna ni fydd cyfle i ailsefyll. Bydd raid ailgyflwyno?r elfennau a fethwyd. Ni ellir ailsefyll y elfennau a basiwyd ond, yn hytrach, defnyddir y marc gwreiddiol ar gyfer yr elfen honno. Os na fydd modd i fyfyriwr fynychu?r cyfnod o waith maes am reswm dilys, bydd modd iddynt gyflwyno prosiect o 5,000 o eiriau a fydd yn adlewyrchu amcanion a nodau?r modiwl.   100%
Asesiad Semester Adroddiad(au) byr (cyfanswm o 1,500 o eiriau)  30%
Asesiad Semester Adroddiad yr unigolyn ar brosiect gr?p (2,500 gair)  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar o 10 munud  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Nodi problemau ymchwil cyfoes a pherthnasol yn Naearyddiaeth.

Cynllunio strategaethau ymchwil er mwyn casglu a dadansoddi data sy'r berthnasol ar gyfer y cwestiynau ymchwil hynny.

Arddangos y gallu i ddefnyddio amrediad o ddulliau casglu a dadansoddi data.

Cyfathrebu canlyniadau ymchwil trwy adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar.

Disgrifiad cryno

Trwy ddadansoddi themau perthnasol a chyfredol yn Naearyddiaeth, amcan y modiwl yw i roi cyfle i'r myfyrwyr i:
.1. Ddefnyddio a chymhwyso dulliau theoretig neu dechnegol i'r maes ac i werthfawrogi sut gall lleoedd neu amgylcheddau penodol ddylanwadu ar brosesau a ystyrir i fod yn gyffredinol eu natur.
.2. Ddatblygu eu gallu i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, ac i ddatrys neu ateb y rhain drwy broses o brofi hypothesis neu gynllunio ymchwil.
.3. Ystyried, lle bo'r addas, ystyriaeth o faterion ethegol yn ymwneud ag ymchwil.
.4. Ddatblygu dealltwriaeth o nodweddion lle, o wahaniaeth a'r ymdeimlad o oddefgarwch tuag at eraill.
.5. Feithrin sgiliau trosglwyddadwy, megis y gallu i weithio mewn gr'r, a sgiliau dirnadaeth a dehongli.
.6. Ddatblygu sgiliau ymchwilio yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynnwys

Ceir cyfle i baratoi'r myfyrwyr ar gyfer y cyfnod o waith maes mewn wyth sesiwn a fydd yn gyfuniad o ddarlithoedd a gwaith ymarferol. Rhydd y sesiynau hyn gyfle i ddysgu am sgiliau gwaith maes penodol, e.e. sgiliau mapio, ynghyd a sut i ddatblygu cwestiynau ymchwil addas. Wedi hyn, ceir cyfnod o waith maes o rhwng 6 a 8 niwrnod, gyda'r union hyd yn ddibynnol ar y cyrchfan. Bydd natur y themau a drafodir ar drip gwaith maes penodol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu ar: natur y cyrchfan; trefniadau staffio ar drip penodol; y cyrsiau gradd y bydd y myfyrwyr wedi cofrestru ar eu cyfer. Serch hynny, bydd pob trip yn canolbwyntio i raddau helaeth ar y themau canlynol:

.1. Dylanwadau'r ddynoliaeth ar yr amgylchedd.
.2. Peryglon naturiol.
.3. Dehongli tirluniau dynol a ffisegol.
.4. Agweddau ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol, wleidyddol ac economaidd.
.5. Agweddau ar newid amgylcheddol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu rhannu i grwpiau cyfrwng Cymraeg yn ystod y sesiynau paratoadol yn ogystal ag yn ystod y gwaith maes ei hunan a bydd disgwyl iddynt gyflwyno'r asesiadau ysgrifenedig a llafar trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd oriau cyswllt ffurfiol ac anffurfiol yn ystod y gwaith maes ei hunan yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd y bydd dau aelod o staff cyfrwng Cymraeg yn rhan o'r tim staffio.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y maes trwy drafodaethau grw^p, adroddiadau a’r cyflwyniad llafar. Bydd pwyslais yn y modiwl hwn ar hybu’r sgiliau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Datblygir hwn wrth i fyfyrwyr i ddylunio a chwblhau prosiectau byr yn y maes, ac wrth iddynt geisio ateb cwestiynau ymchwil penodol
Gwaith Tim Datblygir hyn trwy gyfres o brosiectau ymchwil yn y maes.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am wneud eu nodiadau eu hunain, paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar a chyflwyno adroddiadau.
Rhifedd Lle bo’n addas, hyfforddir y myfyrwyr mewn dulliau ystadegol er mwyn dadnsoddi data o’r maes.
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau dirnad a dehongli tirluniau.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i fyfyrwyr i gwblhau nifer o brosiectau ymchwil a chynllunio a chwblhau o leiaf un prosiect a fydd yn cynnwys ymdrech i: nodi problem; gynllunio prosiect; gasglu data; dadansoddi a chyflwyno data.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i’r myfyrwyr i gyflwyno adroddiadau, i wneud chwiliadau am wybodaeth a, lle bo’n addas, i ddadansoddi data trwy ddefnyddio dulliau electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5