Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HA31720
Teitl y Modiwl
Y Chwyldro Ffrengig
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 x traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x arholiad 2 awr)  60%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   1 x arholiad atodol (ail-sefyll) 2 awr  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes y Chwyldro Ffrengig a dyfnhau dealltwriaeth ac ymestyn ymwybyddiaeth o'r pwysigrwydd i hanes Ffrengig ac Ewropeaidd.
2. Deall perthnasedd y Chwyldro i hanes diweddarach Ffrainc a'r Ffrainc gyfoes.
3. Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod y Chwyldro Ffrengig.
4. Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol.
5. Datblygu eu gallu i gasglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, ac i leoli ac ystyried y wybodaeth hynny o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol.

Nod

I gyflwyno hanes y Chwyldro Ffrengig ac i ddyfnhau dealltwriaeth o'i bwysigrwydd i hanes Ffrengig ac Ewropeaidd.
I asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod y Chwyldro Ffrengig.
I ddatblygu ac ymestyn sgiliau dadansoddol a beirniadol myfyrwyr trwy astudio hanesyddiaeth y chwyldro.

Disgrifiad cryno

Fe ffrwydrodd y Chwyldro Ffrengig, yn arwynebol, heb rybudd ac fe siglwyd gwreiddiau'r gymdeithas Ffrengig a newidiwyd Ffrainc am byth. Tu hwnt i'r portread gwaedlyd a dramataidd arferol, mae goblygiadau'r Chwyldro wedi profi'n hir dymor ac yn gymhleth, gyda sawl un o'r tensiynau a ddaeth i'r amlwg yn sgil yr helynt cychwynnol yn dal i fodoli ac y dal i fod yr un mor berthnasol heddiw ag y roeddent yn ol yn y ddeunawfed ganrif. Yn wir, y Chwyldro Ffrengig oedd genedigaeth y Ffrainc fodern ac mae wedi dylanwadu ar hanes Ewropeaidd mewn sawl ffordd sydd yn anodd eu hanwybyddu. Mae'r Chwyldro yn parhau i liwio'r gymdeithas Ffrengig ac i fod yn un o gyfnodau hanesyddol mwyaf allweddol Ewrop, os nad y byd.
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r rhesymau dros ffrwydrad y Chwyldro yn y lle cyntaf a sut y cafodd un o gymdeithasau mwyaf sefydledig Ewrop ei throi ben i waered. Byddwn yn ystyried y gymdeithas Ffrengig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac yn ystyried prif ddigwyddiadau'r Chwyldro, gan ystyried y prif gymeriadau a'r goblygiadau gwleidyddol hir dymor i hanes Ffrainc ac Ewrop yn ystod y canrifoedd dilynol. Byddwn hefyd yn ffocysu ar bortread y Chwyldro o dan effaith ideolegau megis Marcsiaeth, yn ogystal ag ystyried portread y Chwyldro yng ngwledydd eraill, yn cynnwys Cymru a Phrydain cyfan.

Cynnwys

Cynhelir dwy awr o oriau cyswllt yr wythnos (un awr o ddarlith yn cael ei dilyn gan awr o seminar dros 10 wythnos). Sesiwn bore/prynhawn ychwanegol ar ddiwedd y cwrs.
Darlith 1: Cyflwyniad .
Darlith 2: Yr Ancien Regime.
Darlith 3: Dechrau'r Chwyldro a'r flwyddyn dyngedfennol: 1789.
Darlith 4: Prif ddigwyddiadau a phrif gymeriadau 1789 - 1799.
Darlith 5: Gwrthchwyldro a Chyfnod yr Arswyd.
Darlith 6: Y Directoire, dyfodiad Napoleon Bonaparte ac ymlediad chwyldroadol.
Darlith 7: Diwedd y Chwyldro?
Darlith 8: Ymateb rhyngwladol i'r Chwyldro.
Darlith 9: Dehongli'r Chwyldro.
Darlith 10: Crynhoi a chasgliad.
Sesiwn 11: Sesiwn adolygu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig.
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o'r grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella'r perfformiad.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu'r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i'r cyfnod a'r maes ynghyd a'r gallu i ymdrin yn feirniadaol a'r llenyddiaeth eilaidd sy'n ymwneud a'r Chwyldro Ffrengig.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu'r modiwl hwn a bydd felly'n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6