Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT20110
Teitl y Modiwl
Dadansoddiad Real
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 33 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
fod yn gallu,
1. pennu cyfresi Fourier mewn ffwythiannau integradwy a chyfnod mympwyol;
2. cymhwyso technegau cyfres Fourier, i symiant cyfresi anfeidrol;
3. disgrifio syniadau dilyniant a differadwyedd ar gyfer ffwythiannau sydd a mwy nag un newidyn;
4. penderfynnu os yw ffwythiannau sydd a dau neu fwy o newidynau yn barhaol a differadwy
5. canfod os yw cyfresi anfeidrol yn gydgyfeiriol drwy ddefnyddio profion cydgyfeiriant amrywiol;
6. disgrifio'r syniad o gydgyfeiriant unffurf mewn cyfres o ffythiannau;
7. defnyddio Weierstrass M-test i brofi cydgyfeiriant unffurf cyfresi anfeidrol mewn ffwythiannau;
8. penderfynu radiws cydgyfeiriant cyfresi pwer;
9. defnyddio theorem cydgyfeiriant safonol yngl'n a chyfresi pwer.

Disgrifiad cryno

Mae astudiaeth real o bwysigrwydd hanfodol i unryw fyfyriwr sy'n gobeithio mynd ymhellach na'r driniaeth arferol o fformwlau i ddatrys problemau safonol. Mae'r gallu i feddwl yn ddiddwythol ac i astudio enghreifftiau cymhleth yn angenrheidiol i addasu ac ymestyn cysyniadau i gyd-destynau newydd. Mae'r modiwl wedi'i anelu i ateb y gofynion yma.

Nod

Yn y modiwl yma, mae'r technegau dadansoddol, a'u datblygwyd yn MT11110, yn cael eu ymestyn i sefyllfa fwy cyffredin. Fe fydd y modiwl yn darparu'r sylfaen i ddadansoddiad glasurol mewn gosodiad cadarn, gyda phwyslais ar gymhwyso.

Cynnwys

1. CYFRES FOURIER: Theorem Cydgyfeiriant (mynegiad yn unig), cymhwysiad Cyfresi Fourier i grynhoi cyfresi anfeidrol.
2. CALCWLWS AML NEWIDYN: Dilyniadau, differadwyedd, deilliadau rhannol, graddau uwch a deilliadau rhannol cymysg.
3. THEORI CYFRES ANFEIDROL: Profi cydgyfeiriant, yn cynnwys prawf cymharol, prawf ratio, prawf integral. Cyfresi P'er, radiws cydgyfeiriant, cydgyfeiriant absoliwt. Egwyddor Cauchy o gydgyfeiriant ar gyfer cyfresi.
4. CYDGYFEIRIANT UNFFURF CYFRES O FFWYTHIANNAU: Cydgyfeiriant unffurf o gyfresi, Weierstrass M-test, Egwyddor Cauchy ar gyfer cydgyfeiriant unffurf.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5