Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC35620
Teitl y Modiwl
Cynhyrchu Amlblatfform
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 10 x Sesiynau Ymarferol2 Awr
Seminar 10 x Seminarau 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect Cynhyrchu Amlblatfform  70%
Asesiad Semester Asesiad Ysgrifenedig (2000 o eiriau)  30%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Cynhyrchu Amlblatfform  70%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Ysgrifenedig (2000 o eiriau)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dangos gallu uwch i greu ystod eang o gynnwys amlblatfform.

2. Mynegi bwriadau artistig uchelgeisiol gyda chreadigrwydd, gwreiddioldeb a soffistigeiddrwydd technegol.

3. Dangos dealltwriaeth wybodus o ystod eang o dechnegau cynhyrchu a dosbarthu amlblatfform.

4. Dangos lefel uchel o alluoedd dadansoddi a gwerthuso wedi'u miniogi.

5. Dangos gwerthfawrogiad gwirioneddol o'r angen am waith tîm a gallu cynyddol i gynnig a derbyn beirniadaeth adeiladol.

Disgrifiad cryno

Mae datblygiad cyflym technolegau sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd yn ehangu (ac yn aml yn drysu) y posibiliadau ar gyfer cynhyrchu a defnydd cyfryngol. Mae cyrff cyfryngau traddodiadol a newydd, bach a mawr, yn defnyddio'r technolegau newydd hyn ar draws platfformau cyfryngol niferus i ddosbarthu cynnwys, cynyddu rhyngweithio a newid profiad y gwyliwr.

Bydd y modiwl hwn sy'n seiliedig ar ymarfer yn cynnig cyfle i chi arbrofi gyda thechnegau cynhyrchu a darlledu rhyngrwyd niferus. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol a pherthnasol ym maes creu a dosbarthu cynnwys amlblatfform, gan gysylltu a rhyngweithio â chynulleidfaoedd gwirioneddol mewn amrywiaeth o fforymau.

Cynnwys

Mae yna ddwy sesiwn ddwy awr bob wythnos - bydd un sesiwn yn canolbwyntio ar ddadansoddi a thrafod astudiaethau achos amlblatfform, gyda'r ail sesiwn yn cynnwys gweithdai ymarferol a gwaith grŵp beirniadol. Bydd fformat y sesiynau'n amrywio gan ddibynnu ar y maes penodol dan sylw.

Cyflwyniad i Gynhyrchu Amlblatfform
  • Nodweddion Cynhyrchu Allweddol
Estheteg y Sgrîn Fach
  • Technolegau Camera Amgen
  • Saethu ar gyfer y we
  • Golygu ar gyfer y we
Teledu'r Rhyngrwyd
  • Darlledu'n fyw - stiwdio ac ar leoliad
  • Frydio - yn fyw ac ar-alw
Cyfryngau Cymdeithasol a Rhyngweithio
  • Dogfennau rhyngweithiol
  • Hyrwyddo cynnwys
  • Denu, adeiladu a chynnal cymuned
Gwefannau a Blogiau
  • Nodweddion brandio
  • Adnabod a datblygu hunaniaeth prosiect
Naratifau 'Traws-gyfryngol'
  • Naratifau amlblatfform
  • Cysylltu technolegau
  • Podlediadau, apiau a phosibiliadau eraill

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Caiff sgiliau cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn gyfryngol eu datblygu a'u hymestyn fel rhan allweddol o'r modiwl hwn. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn datblygu lefel uchel o sgiliau cyfathrebu. Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu clywedol wrth greu gwefannau a blogiau, ac wrth gyfathrebu gyda'u cynulleidfa.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn rolau a ddiffinnir yn broffesiynol mewn gweithdai a chynyrchiadau amblatfform, ac felly yn ennill ymdeimlad o gynyrchiadau proffesiynol ac amgylcheddau creu cynnwys.
Datrys Problemau Datblygir sgiliau yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr wynebu her dyfeisio a chreu prosiect cyfryngol, gan ddatrys problemau technolegol a chreadigol.
Gwaith Tim Mae'r modiwl yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd cydweithio agos a gwaith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn gofyn am feirniadaeth o bob maes o gynhyrchu, o gynllunio i olygu ac i ddosbarthu. Ar ben hynny, mae'n ofynnol bod myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer asesiadau yn y cyfnod cyn-gynhyrchu. Bydd y myfyrwyr yn cael eu hannog i addasu eu gwaith mewn ymateb i'r asesiad hwn. Mae'r broses hon yn un gynyddol ac fe ddisgwylir i fyfyrwyr asesu eu gwaith eu hunain yn gyson. Mae elfennau atblygol yn greiddiol i'r modd o ddysgu yn y modiwl hwn.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Bydd sgiliau cyn-gynhyrchu yn cael ei ddatblygu drwy'r cenhedlu a chynllunio o gynyrchiadau amlblatfform. Bydd sgiliau cynhyrchu camera sengl yn cael ei ddatblygu i lefel newydd, yn ogystal â darlledu byw a chyhoeddi podlediadau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o feddalwedd a chaledwedd perthnasol.
Sgiliau ymchwil Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymchwil mewn ystod eang o ddulliau cynhyrchu teledu ac amlblatfform, yn ogystal a chysyniadau beirniadol, damcaniaethol a hanesyddol. Bydd ffilmio, golygu a dosbarthu fideo yn cynnwys ymchwil i systemau a gweithdrefnau technegol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd myfyrwyr yn defnyddio nifer o becynnau technoleg gwybodaeth wrth ddilyn y modiwl hwn gan gynnwys pecynnau prosesu geiriau, trin sain a delweddau a chyfathrebu ar-lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6