Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC36820
Teitl y Modiwl
Ffilmiau Hollywood
Blwyddyn Academaidd
2015/2016
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
FM20420 Classical Hollywood Cinema, FM21020 Contemporary Hollywood Cinema
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Gwylio Ffilm 10 x Sesiynau Gwylio 3 Awr
Darlith 10 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 1  40%
Asesiad Semester Traethawd 2  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1 (teitl newydd)  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2 (teitl newydd)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Datblygu dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol a diwydiannol sinema prif ffrwd America drwy astudio ffilmiau Hollywood

2. Arddangos dealltwriaeth o arferion cynhyrchu - o derminoleg dechnegol i benderfyniadau estheteg, a'r dewisiadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr - trwy astudio arddull ffilmiau Hollywood.

3. Ddechrau datblygu ymwybyddiaeth o brif themâu a gogwyddau beirniadol sy'n bodoli o fewn disgyrsiau a gysylltir â ffilmiau Hollywood.

4. Dadansoddi amrediad o ffilmiau a ddangosir mewn modd addas ar gyfer lefel eu hastudiaeth.

Disgrifiad cryno

Ystyrir y blynyddoedd rhwng 1915-1960 fel 'Oes Aur' y sinema, sef y cyfnod lle sefydlwyd holl godau a chonfensiynau naratifol y cyfrwng. Dadleua nifer bod pwysigrwydd y cyfnod yn parhau hyd heddiw, â phob cyfarwyddwr yn ymateb i'r confensiynau hynny, naill a'i trwy eu cofleidio a'u hail adrodd, neu trwy eu gwrthod a'u gwyrdroi. Sinema Hollywood Glasurol yw'r disgwrs dominyddol felly ym myd y sinema, y canol llonydd sy'n ysgogi ymatebion gwahanol ac sy'n rymus hyd heddiw. Mae'r modiwl yn cyflwyno terminoleg sylfaenol y maes wrth ddehongli damcaniaethau ffilm amrywiol. Yn ogystal a rhoi sylw i'r cyfnod clasurol, edrychir ar dadeni Hollywood yn ystod yr 1970au, datblygiad y blockbuster a chynhyrchu diweddar. Fe fydd y modiwl yn archwilio nodweddion thematig, strwythurol ac esthetaidd wrth rhoi sylw manwl i rôl y cyfarwyddwyr, y stiwdios, dylanwadau gwleidyddol a diwylliannol.

Nod

Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio ffilmiau a diwylliant Hollywood o'r cyfnod clasurol hyd at heddiw. At hynny, cyflwynir myfyrwyr i gorff o waith damcaniaethol sy'n archwilio cyfraniad ffilm i ddiwylliant gyfoes.

Cynnwys

Darlith / Seminar wythnosol ar y pynciau canlynol:

1. Y System Stiwdio

2. Arddull Hollywood Glasurol

3. System Sêr

4. Tanseilio'r System Stiwdio

5. Hollywood Ôl-Glasurol

6. Blockbusters

7. Dadeni Hollywood

8. Merchandise

9. Ffilmiau Annibynnol

10. Hollywood heddiw

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6