Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
AD37400
Teitl y Modiwl
Dysgu i Addysgu 2
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad Prif Bwnc (1300 gair)  70%
Asesiad Semester Aseiniad Ail Bwnc (700 gair)  30%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Prif Bwnc (1300 gair)  55%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ail Bwnc (700 gair)  30%
Asesiad Ailsefyll 2 Enghraifft o?r Detholiad Ymarfer Dysgu (400 gair)  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o'u prif bwnc/bynciau arbenigol a fydd yn galluogi iddynt eu haddysgu yn hyderus ac yn gywir yn CA3 a CA4 ac ol-16 lle bo'n berthnasol;

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o gynnwys y pwnc a chwricwlwm yr is-bwnc methodoleg yng Nghyfnod Allweddol 3*;

Parhau i gynllunio ar gyfer, addysgu a rheoli eu dosbarthiadau'n effeithiol, gan sicrhau dysgu datblygiadol a disgyblaeth gadarn;

Trafod a dadansoddi'n fanylach sut mae dysgwyr yn dysgu a chynllunio'n unol a hynny;

Dadansoddi dysgu y dysgwyr yn feirniadol drwy dynnu ar amrywiaeth o asesiadau o ystod eang o waith dysgwyr a gallu gosod targedau clir ar gyfer cyflawniadau dysgwyr a chyflwyno adroddiadau cynhwysfawr i rieni;

Tynnu ar arsylwadau gwersi ac addysgu tim (lle bo'n briodol) gyda golwg ar uchafu eu gwybodaeth a'u hyder yn yr is-bwnc methodoleg*

Trafod yn feirniadol sut y maent yn datblygu i fod yn ymarferwyr ystyriol drwy adnabod eu cryfderau a'u hanghenion eu hunain.

  • Yn gymwys i’r rheini sy’n cymryd Is-bwnc methodoleg yn unig


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6