Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG32300
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Tiwtorial 11 x Tiwtorial 1 Awr
Darlith 1 x Darlith 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Llyfr cofnodi  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  10%
Asesiad Semester Traethawd hir  80%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb a'r rheini a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.

2. Dynodi a defnyddio technegau priodol ar gyfer dadansoddi data.

3. Tynnu casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil.

5. Ffurfio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

6. Arddangos sgiliau ysgrifennu gwyddonol priodol ynghyd a sgiliau TG.

7. Cyflwyno'r cyd-destun, y data, y canlyniadau a'r casgliadau mewn modd priodol.

8. Dangos annibyniaeth sylweddol yn eu gwaith.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc sy'n berthnasol i'w gradd. Bydd llawer o'r prosiectau'n seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; bydd eraill yn ymarfer modelu cyfrifiadurol yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd neu ddatblygu cynllun busnes manwl. Bydd eraill yn cynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth sydd wedi'i chyhoeddi. Bydd yr holl brosiectau, beth bynnag eu ffurf, yn golygu bod rhaid i fyfyrwyr weithio'n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, ymgymryd a gwaith ymchwil a dadansoddi, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno'r cyfan ar ffurf traethawd ymchwil.

Nod

Nod y modiwl yw cynyddu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyrwyr, gan adeiladu ar wybodaeth gyfredol, a defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a enillwyd drwy gydol eu rhaglen gradd i wneud cyfraniad newydd i'n gwybodaeth.

Cynnwys

Bydd natur y traethawd ymchwil yn adlewyrchu diddordebau'r myfyrwyr unigol ac er y bydd amrywiaeth o ran pwyslais y gwaith mae'r holl brosiectau'n ddarostyngedig i'r un rheoliadau a rhaid iddynt geisio cyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gynnal cyswllt rheolaidd gyda'u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semestrau) i drafod cynnydd y gwaith.
Bydd darlith gyflwyniadol yn y semester cyntaf yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y Traethawd. Yn yr ail semester, cynhelir cymorthfeydd galw heibio wythnosol dewisol fydd yn cynnig cyngor ar agweddau penodol o baratoi'r Traethawd Ymchwil.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno seminar ymchwil ar eu prosiect, gan brofi eu gallu i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd wedi'i strwythuro'n ofalus a llythrennedd llafar. Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd a phrosiect ymchwil arbrofol hefyd yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod y cyfarwyddo a'r hyfforddi. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio'r traethawd ymchwil.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn
Datrys Problemau Mae'r sgil hwn yn elfen allweddol o'r modiwl, a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddadansoddi data cynradd a/neu eilaidd yn feirniadol, dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl a defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu datrysiadau priodol.
Gwaith Tim Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn er y bydd gofyn i rai myfyrwyr weithio gydag aelodau eraill o grŵp labordy neu grŵp ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr traethawd hir eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn dyfeisio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys amcanion tymor byr a thymor hir, ynghyd ag adolygu a monitro cynnydd, a diwygio cynlluniau gweithredu fel bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol. Caiff y rhain eu cyflwyno i gynorthwyo goruchwylwyr i bennu marc priodol ar gyfer ymddygiad myfyriwr.
Rhifedd Efallai y bydd y modiwl hwn yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol ynghyd a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlau) yn ol natur y prosiect. Gall myfyrwyr hefyd gaffael a dehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol.
Sgiliau pwnc penodol Bydd unrhyw sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil e.e. hyfforddiant mewn dilyniannu a dadansoddi DNA, cynllunio holiadur, arsylwi ymddygiad ac ati
Sgiliau ymchwil Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n gofyn bod myfyrwyr yn deall ac yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil a llunio adroddiad academaidd (traethawd hir).
Technoleg Gwybodaeth Caiff amrywiaeth o sgiliau TG eu defnyddio yn ystod y modiwl hwn. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau i baratoi a mewnbynnu data, taenlenni, prosesu geiriau a rhaglenni dadansoddi penodol i'r ymchwil er mwyn dadansoddi canlyniadau sy'n briodol i'w prosiect.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6