Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW35020
Teitl y Modiwl
Cymru a Datganoli
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 10 x Seminarau 1 Awr
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (1 x 2 awr)  50%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x 2 awr)  50%
Asesiad Ailsefyll 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 1 x traethawd 3,000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion cyfansoddiadol a threfniadol y cynlluniau amrywiol ar gyfer datganoli hunanlywodraeth i Gymru a gyflwynwyd cyn 1997.
2. Dadansoddi'n feirniadol brif nodweddion cyfansoddiadol, cyfreithiol a threfniadol y trefniadau datganoli a sefydlwyd yn 1999, a hefyd y modd yr esblygodd ers hynny.
3. Gwerthuso natur y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng y sefydliadau datganoledig yng Nghymru a haenau eraill llywodraeth, yn arbennig yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.
4. Disgrifio a gwerthuso natur y drefn bolisiau yng Nghymru ar ol datganoli.
5. Disgrifio'n fanwl natur y cystadlu rhwng y pleidiau a'r diwylliant gwleidyddol yng Nghymru ar ol datganoli.
6. Ystyried yn feirniadol gyfeiriad trefn datganoli yng Nghymru yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Mae rhan gyntaf y modiwl wedi'i chynllunio o gyfres o sesiynau hanesyddol sy'n archwilio'r amryfal ymdrechion i sefydlu mesur o ddatganoli neu hunanlywodraeth i Gymru cyn sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Mae'r ail adran yn mynd yn ei blaen i archwilio'r modd y mae cytundeb datganoledig Cymru wedi esblygu ers 1999, ac fel rhan o hynny, rhoddir ystyriaeth fanwl i ddarpariaethau Deddfau Llywodraeth Cymru 1998 a 2006. Bydd y drydedd adran, a'r olaf, yn troi i ystyried y modd y mae diwylliant Cymru wedi datblygu ac esblygu ers datganoli.

Nod

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o bynciau megis:
- natur y cynlluniau amrywiol ar gyfer datganoli neu hunanlywodraeth a gyflwynwyd cyn 1997;
- prif nodweddion y cytundeb datganoledig a sefydlwyd yn 1999 a'r modd yr esblygodd ers hynny;
- natur y cystadlu rhwng y pleidiau a diwylliant gwleidyddol yng Nghymru ar ol datganoli;
- natur y drefn bolisiau yng Nghymru ar ol datganoli;
- cyfeiriad y drefn ddatganoli yng Nghymru yn y dyfodol.

Cynnwys

1. Cyfarfod cyntaf
Rhan 1: Datganoli yn ei gyd-destun
2. Yr ymdrechion cynnar o'r 1890au i'r 1950au
3. Yr 'eliffant wrth y drws' llanast 1979
4. Atgyfodi'r freuddwyd y llwybr i'r Cynulliad Cenedlaethol
Rhan 2: Esblygiad cyfansoddiadol Cymru
5. Y cynllun gwreiddiol Deddf Llywodraeth Cymru 1998
6. Y Cynulliad yn datblygu: 1999-2006
7. Tuag at ddatganoli deddfwriaethol: Deddf Llywodraeth Cymru 2006 cyn ac ar ol refferendwm 2011
8. Cysylltiadau rhynglywodraethol: sefydliadau datganoledig Cymru a Gwladwriaeth y Deyrnas Gyfunol
Rhan 3: Diwylliant gwleidyddol a'r Drefn Bolisiau yng Nghymru ar ol datganoli
9. Gwleidyddiaeth Etholiadol yng Nghymru ar ol datganoli
10. Y Pleidiau Gwleidyddol ar ol datganoli
11. Cynrychiolaeth a'r Cynulliad Cenedlaethol
12. Y Cynulliad Cenedlaethol a'r Gymdeithas Ddinesig yng Nghymru
13. Y drefn bolisiau yn y Gymru ddatganoledig I
14. Y drefn bolisiau yn y Gymru ddatganoledig II
15. Diplomyddiaeth islaw gwladwriaeth Cymru: yr Undeb Ewropeaidd a chysylltiadau rhyngwladol

16. Dyfodol llywodraeth ddatganoledig

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut orau i ddefnyddio'r rhain. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r amryw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut orau i ddefnyddio'r ffurf fwyaf priodol o gyfathrebu. Byddant yn dysgu ysgrifennu a siarad yn glir a sicrhau nodau ac amcanion uniongyrchol. Byddant yn dysgu ystyried dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc, canolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd eirbrosesu eu hasesiadau ysgrifenedig a dylai cyflwyniad y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniad a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwrpas y modiwl hwn yw meithrin a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr yn eu swyddi, yn enwedig wrth siarad a grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu'n glir ac yn gryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gwaith annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o'r modiwl; wrth gyflwyno traethawd i'w asesu a pharatoi ar gyfer arholiad, bydd gofyn i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu'r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu'n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tim yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o'r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grwp. Bydd y trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o'r modiwl, ac yn galluogi'r myfyrwyr i fynd i'r afael a phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hyrwyddo hunanreoli ond o fewn i gyd-destun lle bydd cefnogaeth a chymorth ar gael gan y cydgysylltydd a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain a dilyn eu trywydd eu hunain, yn cynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad pynciau eu gwaith cwrs a'r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn eu cynorthwyo i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau pwnc-benodol hyn yn cynnwys: Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl Gwerthuso safbwyntiau sy'n cystadlu a'i gilydd Defnyddio rhychwant o fethodolegau wrth drafod problemau cymdeithasol a gwleidyddol hanesyddol a chyfoes, cymhleth.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i'r myfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hynny'n golygu defnyddio ystod o ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys testunau academaidd craidd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr eirbrosesu'r gwaith fydd iw gyflwyno drwy’r llwyfan ar-lein Blackboard. Anogir myfyrwyr hefyd i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6