Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC30520
Teitl y Modiwl
Drama a Hanes
Blwyddyn Academaidd
2016/2017
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 Drama ac Astudiaethau Theatr yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 10 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Traethawd (3000 o eiriau)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2,500 o eiriaul) - (i deitl newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (3,000 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad corff o waith dramataidd yn ystod cyfnod hanesyddol penodol trwy ddadansoddi testunau dramataidd

Arddangos gallu i ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes mewn traethawd ysgrifenedig 2500 o eiriau; Arddangos dealltwriaeth arbenigol o'r math o waith beirniadol sy'n gyd-destun allweddol i'r traddodiad dramataidd a ystyrir

Arddangos gallu i ddatblygu ymated deallusol annibynnol i faes astudiaeth y modiwl, ac i werthuso prif nodweddion y maes hwnnw, trwy lunio cwestiwn traethawd 3000 o eiriau ar bwnc penodol a gymeradwyir mewn trafodaeth a chyd-gysylltydd y modiwl; Arddangos gallu i adfyfrio'n ddeallus ar y gwaith a gyfwynwyd yn yr aseiniad cyntaf wrth lunio teitl y traethawd hunanddewisiedig, ac wrth gyflawni gwaith ymchwil priodol ar ei gyfer

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe'ch cyflwynir i un o nifer o gyrff o waith dramataidd er mwyn ystyried y modd y mae traddodiadau dramataidd yn cael eu sefydlu a'u cynnal, ac er mwyn archwilio'r berthynas rhwng gweithiau dramataidd unigol, bywyd a gweledigaeth gymdeithasol y dramodwyr a'u lluniodd, a chyflwr hanesyddol y gymdeithas a oedd yn gyd-destun allweddol iddynt. Gofynnir i'r myfyrwyr ystyried i ba raddau y mae'r dramau hyn yn perthyn i'w gilydd, i ba raddau y mae'r dramau hyn yn perthyn i'w gilydd, i ba raddau y gellir dweud bod un drama o fewn y dilyniant yn ysgogi neu achosi'r nesaf, a beth all fod yn gyfrifol am gymell y newid o un math o arddull i'r llall

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
10 x Darlith/Seminar 2 awr

Gan fod testunnau gosod a phwyslais hanesyddol yn y modiwl yn newid o flwyddyn i flwyddyn (eithr fod y modd o'i drin yn gyson a chanlyniadau dysgu cyffredinol y modiwl bob tro) amcan yn unig o'r gwaith a astudir y medrir ei gynnig yma. fel engraifft o'r cynnwys, rydym yn cyflwyno'r maes llafur arfaethedig ar gyfer astudiaeth o'r Theatr Fodern Ewropeaidd:

1 Cyflwyniad i'r Theatr Fodern:
Ramantiaeth a Theatr yr Almaen yn y ddeunawfed ganrif
Faust (Goethe)

2 Genedigaeth y Ddrama Fodern:
Woyzeck (Buchner)

3 Sylfeini Gweledigaeth Ibsen:
Peer Gynt (Ibsen)

4 Camp a Rhemp yr Avant-Garde:
Wbw Frenin (Jarry)

5 Naturiolaeth a Thu Hwnt yn Tsiecof:
Tair Chaer (Tsiecof)

6 Mynegiadaeth yn y Theatr:
O Fore Tan Ganol Nos (Kaiser)

7 Tuag at Swrealaeth:
Priodas Waed (Lorca)

8 Y Llwyfan Mewnol:
Y Ddrama-Freuddwyd (Strindberg)

9 Dadelfeniad y Ddrama:
Deffro'r Gwanwyn (Wedekind)

10 Brecht a'r Theatr
Y Fam Gwroldeb a'i Phlant (Brecht)


Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymgymryd ag ysgrifennu traethawd, ac wrth i sgiliau ysgrifennu traethawd effeithiol ar y pwnc gosodedig gael eu trafod yn y seminarau. Fe fydd y seminarau hwythau'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu deallusol llafar er na fydd y sgiliau rhain yn cael eu asesu yn uniongyrchol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol
Datrys Problemau Datblygir y medrau hyn wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a gyflwynir ar y modiwl
Gwaith Tim Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y seminarau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i drafod y testunau gosod a'r pynciau sy'n codi yn eu sgil
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y myfyrywr yn gorfod ymated i'w aseiniad cyntaf wrth baratoi ar gyfer yr ail draethawd hunanddewisiedig. At hynny, fe ddatblygir sgiliau gwaith a defnydd y myfyrwyr o amser wrth baratoi ar gyfer eu cyfraniad i seminarau a darlithoedd. Nid asesir y broses o ddatblygu'r sgiliau hyn yn ffurfiol
Rhifedd Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn wrth i'r darlithoedd, seminarau a'r asesiadau hybu a hyrwyddo myfyrdod a sylwadaeth ar gysyniadau allweddol a datblygiadau arwyddocaol mewn damcaniaeth ac ymarfer theatraidd. Fe gant eu asesu fel rhan o'r aseiniadau ysgrifenedig
Technoleg Gwybodaeth Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6