Sgiliau ar gyfer Biowyddonwyr Anifeiliaid, Ceffylau a Milfeddygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Ceffy
- Cod y Modiwl
- BG17220
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau ar gyfer Biowyddonwyr Anifeiliaid, Ceffylau a Milfeddygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Ceffy
- Blwyddyn Academaidd
- 2025/2026
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Manod Williams
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cyflwyniad: 5 Munud | 30% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Prosiect: 2000 o eiriau | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad: 5 Munud | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Prosiect: 2000 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Disgrifio ffisioleg ymarfer corff a hyfforddiant
- Ymchwilio i ddewis a hyfforddi'r athletwr geffyl
- Cydnabod sut y gall yr athletwr geffyl gystadlu'n ddiogel dan amodau gwahanol
- Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig
- Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau
- Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd
- Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol
- Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol)
- Dehongli a defnyddio data
- Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, bydd nifer o diwtorialau grwpiau bach i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau allweddol mewn ysgrifennu academaidd, meddwl beirniadol, trin data a chyfathrebu gan ddefnyddio ffisioleg ymarfer corff ceffylau fel arbenigedd. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddisgrifio effeithiau ymarfer a hyfforddiant trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, gweithdai ac e-ddysgu. Bydd hefyd yn ymchwilio i ddyluniad cyfundrefnau ffitrwydd priodol gan roi sylw dyledus i'r ymatebion addasol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol weithgareddau ac yn cyflwyno'r clefydau a/neu anafiadau sy'n cyfyngu ar berfformiad.
Nod
Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arfer academaidd da a gwella eu sgiliau academaidd. Trwy diwtorialau personol, darlithoedd ffurfiol, e-ddysgu, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai, bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn ochr yn ochr ag effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar ffisioleg ceffylau.
Cynnwys
Bydd y modiwl yn ymdrin â sgiliau allweddol mewn ymarfer academaidd megis meddwl beirniadol, ysgrifennu academaidd a chyflwyniad llafar yn ogystal â gwaith tîm gan ddefnyddio detholiad o geffylau, egwyddorion hyfforddi ac effeithiau ymarfer corff, hyfforddiant a blinder ar systemau corff penodol yn ogystal ag achosion perfformiad gwael fel arbenigedd.
Bydd tiwtorialau grwpiau bach yn parhau ar draws y ddau semester yn ogystal â darlithoedd ffurfiol ac adnoddau e-ddysgu. Gellir cynnwys amrywiaeth o ymarferion ymarferol, er enghraifft, pennu ffitrwydd gwahanol geffylau gan ddefnyddio cyfraddau calon, a/neu ddyrannu organau dethol i werthuso anatomeg a ffisioleg o safbwynt ymarfer corff.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Bydd ymgorffori elfen o waith grŵp yn ystod dosbarthiadau ymarferol yn datblygu gallu myfyrwyr i weithio fel tîm ac yn ystod cyflwyniadau llafar. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd sgiliau ysgrifennu yn cael eu datblygu a'u hasesu trwy'r aseiniad ysgrifennu traethodau a rhoddir adborth yn ystod sesiynau tiwtorial. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu harddull ysgrifennu ac yn dyrannu papurau ymchwil perthnasol o'r llenyddiaeth wyddonol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gydlynu gweithgareddau gydag eraill a chyflwyno data. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod gwaith prosiect i ddatrys problemau |
| Gallu digidol | Bydd y gwaith cwrs yn cael ei airbrosesu ac yn ymarferol bydd myfyrwyr yn casglu data cyfradd curiad y galon ceffylau a bydd angen ei ddadansoddi gan ddefnyddio MS Excel. Bydd myfyrwyr yn cael ymarfer trin setiau data a dysgu cyflwyniad data sylfaenol yn R. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Y gallu i werthuso perfformiad posibl ceffyl penodol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
