Prosesau Rhewlifol ac Afonol
- Cod y Modiwl
- DA25520
- Teitl y Modiwl
- Prosesau Rhewlifol ac Afonol
- Blwyddyn Academaidd
- 2025/2026
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Hywel Griffiths
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
GS25520
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad ffliwm hydrolig: Adroddiad byr 1000 o eiriau | 25% |
| Arholiad Semester | Arholiad heb ei weld (cwestiynau byr a thraethawd): 2 Awr | 75% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ffliwm hydrolig: Adroddiad byr | 25% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad heb ei weld (cwestiynau byr a thraethawd): 2 Awr | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Disgrifio prosesau a ffurfiau allweddol systemau dalgylch gan gynnwys rhyngweithiad llif hylif a gwaddod;
- Adnabod ac esbonio sut mae prosesau rhewlifol ac afonol yn rhyngweithio i gynhyrchu tirffurfiau a thirweddau gwahanol;
- Egluro strwythur rhwydweithiau draenio, morffoleg sianel a dynameg sianel;
- Gwerthuso problemau a strategaethau rheoli mewn dalgylchoedd hydrolegol, gan gynnwys peryglon.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn archwilio prosesau geomorffolegol a hydrolegol sylfaenol allweddol sy’n gweithredu mewn dalgylchoedd daearol sy’n ymestyn o fynyddoedd i aberoedd, sy’n gysylltiedig yn benodol â rhewlifoedd ac afonydd. Yn gyntaf bydd y modiwl yn archwilio'r prosesau sy'n gweithredu yn yr amgylcheddau hynny ar wahân, cyn ystyried sut y gallant ddylanwadu ar geoberyglon, a ffurfiant ac esblygiad tirffurf a thirwedd.
Nod
Nod y modiwl yw:
· datblygu ymwybyddiaeth gysyniadol drylwyr o weithgarwch a phrosesau rhewlifol ac afonol a chanlyniadau geomorffolegol symudiad dŵr ar draws y dirwedd.
· datblygu ymwybyddiaeth gysyniadol feirniadol o'r prosesau sy'n dylanwadu ar sut mae dalgylchoedd yn ymateb yn hydrolegol ac yn geomorffolegol i newid amgylcheddol.
· defnyddio dealltwriaeth o dirweddau afonol a rhewlifol i werthuso strategaethau rheoli a fabwysiadwyd ar gyfer sianeli afonydd a dalgylchoedd ehangach, gan gynnwys ar gyfer peryglon hydrolegol.
Cynnwys
· Cydbwysedd màs rhewlif a hydroleg
· Symudiad rhewlif ac erydiad, llusg-gludo a chludiant gwaddod
· Prosesau sianeli afon – llif hylif, gwaddod ac erydiad
· Geometreg hydrolig a phatrymau sianeli afonydd
· Rheoli systemau dalgylch ac amgylcheddau hydrolegol
· Gwaith maes yn nalgylch Afon Rheidol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Sgiliau ysgrifennu traethawd wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth sefyll yr arholiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu traethodau a chanolbwyntio ar strategaethau rheoli pwysig a ddefnyddir yn y maes rheoli amgylcheddol. Bydd siaradwr allanol o fyd ymgynghori amgylcheddol yn dangos opsiynau gyrfa. |
| Datrys Problemau | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddeall tarddiad prosesau ffisegol allweddol a gwerthuso strategaethau a ddefnyddir i fonitro a rheoli rhannau allweddol o'r systemau rhewlifol ac afonol. |
| Gwaith Tim | Dim |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Darllen annibynnol yn seiliedig ar restr ddarllen |
| Rhifedd | Trwy bwyslais ar feintioli ffurfiau a phrosesau dalgylchoedd rhewlifol ac afonol, ac egluro llif geoffisegol o egwyddorion mecanyddol cyntaf |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gadael y cwrs yn ymwybodol o broblemau a datrysiadau rheoli amgylcheddol pwysig. |
| Sgiliau ymchwil | Darllen annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd mynediad at adnoddau helaeth y llyfrgell a'r we yn hanfodol ar gyfer datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
