Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm

Cod y Modiwl
RG18420
Teitl y Modiwl
Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Hefin Williams
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
RD18420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm: 1800 o eiriau 60%
Asesiad Semester Prawf mewn dosbarth: 40 Munud 40%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Technoleg Amaethyddol a Diogelwch Fferm: 1800 o eiriau 60%
Asesiad Ailsefyll Prawf: 40 Munud 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o rôl a datblygiad technolegau amaethyddol allweddol
  2. Nodi a gwerthuso rôl Ffermio Manwl Gywir ac egluro'r egwyddorion allweddol dan sylw
  3. Dangos dealltwriaeth o egwyddorion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a sut y gellir eu cymhwyso i reoli systemau amaethyddol yn fwy effeithlon
  4. Nodi'r mesurau iechyd a diogelwch sydd eu hangen i sicrhau gweithrediad diogel ac arfer gorau ar ffermydd
  5. Arddangos y gallu i gynllunio ar gyfer defnydd diogel ac effeithiol o dechnoleg ar ffermydd

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn disgrifio’r egwyddorion a’r arferion sy’n sail i’r ystod eang o dechnolegau sy’n cael eu datblygu a’u mabwysiadu gan y diwydiant amaethyddol. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos eu gallu i gynllunio ac ymgymryd â sgiliau fferm technegol mewn modd diogel sy'n gyson ag arferion gorau.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn archwilio:
• Datblygiad Peiriannau ac Offer Fferm
• Technoleg Ffermio Fanwl Gywir
• Defnydd o Adnoddau ac Ynni ar Ffermydd
• Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a Mapio Tir Amaethyddol
Bydd y modiwl hefyd yn cynnig y cyfle i ennill profiad o gynllunio gwaith fferm yn ddiogel ac effeithiol ac i ymgymryd â sgil fferm technegol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn creu cynllun gwaith ar gyfer defnyddio technoleg yn ddiogel ar ffermydd. Dylid ysgrifennu hwn mewn modd sy'n adlewyrchu normau cyfredol y diwydiant a gofynion deddfwriaethol.
Gallu digidol Bydd myfyrwyr yn defnyddio meddalwedd swyddfa a meddalwedd System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) wrth gwblhau aseiniadau
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd myfyrwyr yn gwerthuso ac yn dehongli ffynonellau allanol o wybodaeth a bydd angen iddynt wneud defnydd priodol ohonynt mewn aseiniadau
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio technoleg fferm
Synnwyr byd go iawn Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i adnabod risgiau yn gywir wrth weithio mewn amgylchedd fferm

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4