Sgiliau ar gyfer y Diwydiant Amaethyddol

Cod y Modiwl
RG18800
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer y Diwydiant Amaethyddol
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Mrs Nia Lloyd
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad data: 2000 o eiriau 60%
Asesiad Semester Cyflwyniad: 10 Munud 40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad: 10 Munud 40%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad data: 2000 o eiriau 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf chyflwyniad llafar yn dilyn y daith astudio amaethyddol
  2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau
  3. Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd
  4. Nodi ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol
  5. Nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar systemau cynhyrchu ac asesu eu heffaith ar reolaeth a pherfformiad busnes
  6. Dangos dealldwriaeth o gadwyn gyflenwi amaethyddol
  7. Gosod ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
  8. Dehongli a defnyddio data
  9. Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl yw cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, synthesis data ac asesu a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn mynd ar daith astudio wythnos o hyd yn Nwyrain Lloegr, a arferai fod yn rhan o BR1110. Yn dilyn yr ymweliad bydd y myfyrwyr yn gwneud cyflwyniad a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn grŵp a chyflwyno.

Cynnwys

Fydd yr modiwl yma yn gael i dysgu trwy gweithgareddau ac darlithoedd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Bydd myfyrwir yn weithio fel rhan o grwp ar gyfer yr gweithdau ac yn dablygu sgiliau cyfarthebu.
Sgiliau Pwnc-benodol Yn ystod y modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol gadwyni cyflenwi a systemau cynhyrchu, yn enwedig Dwyrain Lloegr
Synnwyr byd go iawn Fydd myfyrwir yn gael sesiwn fydd yn ganolbwyntio ar gyrfa a beth sydd yn posib i ein myfyrwir ar ol prifysgol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4