Llythrennedd Mewn Plant Ifanc
- Cod y Modiwl
- AD20220
- Teitl y Modiwl
- Llythrennedd Mewn Plant Ifanc
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mr Prysor Davies
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Sian Lloyd-Williams
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
- Dr Susan Chapman
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Aseiniad 1: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Aseiniad 2: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2: 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Gwerthuso'r feirniadol ddatblygiad llythrennedd mewn plant ifainc o fewn i fframwaith penodol.
- Trafod yn feirniadol oblygiadau datblygiad llythrennedd ar gyfer dysgu ac addysgu.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o rôl yr oedolyn wrth gyfryngu adnoddau llythrennedd
- Arddangos ymgysylltu beirniadol a ffynonellau perthnasol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu plant i wneud ystyr a rôl oedolion a'r gymuned wrth gefnogi'r broses hon. Mae'n archwilio dadleuon cyfredol ynghylch datblygu sgiliau plant mewn iaith lafar ac ysgrifenedig yn ogystal â dulliau eraill o ystyr, gan gynnwys testunau digidol. Mae'n archwilio rôl llythrennedd mewn cymdeithas amrywiol a phwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn yn gweld ei fod yn cael ei gynrychioli yn y deunyddiau llythrennedd y maent yn ymgysylltu â nhw.
Cynnwys
Llythrennedd yn yr 21ain ganrif: cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol
Llafaredd a darllen cynnar: creu amgylchedd llawn llythrennedd
Dulliau o addysgu darllen
Dewisiadau darllen: Gweithio gyda theuluoedd a'r gymuned
Y broses ysgrifennu
Darllen er gwybodaeth: mynediad at destunau o ansawdd uchel
Datblygiad barddoniaeth a llythrennedd
Heriau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddatblygu llythrennedd
Datblygu gweithgareddau llythrennedd
Gwerthuso gweithgareddau llythrennedd
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol drwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y rhain yn y modiwl hwn. |
| Datrys Problemau | Elfen hanfodol o'r broses o asesu'n feirniadol. |
| Gwaith Tim | Mae gweithgareddau seminar yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tîm, gan gynnwys cyflwyniadau grwp a thrafodaethau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar yn annog gwella perfformiad. |
| Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif aseiniadau a rhai o'r tasgau seminar. |
| Technoleg Gwybodaeth | Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
