Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol

Cod y Modiwl
BG18040
Teitl y Modiwl
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Cennydd Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Irene Griffiths
Dr Ruth Wonfor
Dr Cennydd Jones
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad Cnydau: ar reolaeth plotiau o wenith a barlys mae'r myfyrwyr wedi eu gofalu yn ystod ymweliadau cnydau. 1500 o eiriau 20%
Asesiad Semester Adnabod cnydau porthiant: 2 Awr O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr 20%
Asesiad Semester Adroddiad Priddoedd: 1500 o eiriau 20%
Arholiad Semester Arholiad MCQ: 1 Awr Cwestiynau aml-ddewis diwedd semester 2 1.5 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Cnydau: ar reolaeth plotiau o wenith a barlys mae'r myfyrwyr wedi eu gofalu yn ystod ymweliadau cnydau. 1500 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Priddoedd: 1500 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Adnabod cnydau porthiant: 2 Awr O dan amodau wedi eu arsylwi, bydd myfyrwyr yn adnabod amrywiaeth o rhywogaethau porthiant (porfeydd, côdlysiau a pherlysiau). Caiff marciau rhanol eu rhoi am rhesymau dros eu penderfyniad o ddewis rhywogaeth. 2 Awr 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad MCQ: 1 Awr Cwestiynau aml-ddewis diwedd semester 2 1.5 Awr 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
  2. Arddangos gwybodaeth a gedwir yn feddyliol wrth adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant.
  3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
  4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
  5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
  6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
  7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Disgrifiad cryno

Trwy raglen integredig o ddarlithoedd, sesiynau arddangos, sesiynau ymarferol ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn cael gwybod am union ofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawn, yn ogystal â'r ffactorau sy'n sail i ystod o strategaethau cynhyrchu cnwd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, gan roi pwyslais ar sut mae'r rhain yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bridd. Ar ôl i'r pethau elfennol hyn gael eu cyflwyno, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar eu goblygiadau o ran rheoli tir a gwarchod yr amgylchedd.

Nod

1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
2. Adnabod amryw o rhywogaethau cnydau porthiant dan amodau arholiad.
3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Cynnwys

Rhennir y modiwl hwn yn sawl adran i gwmpasu gwahanol agweddau ar reoli tir amaethyddol.
Cyflwynir gwyddor pridd, gan ganolbwyntio ar adeiladwaith, gweadedd a lleithder pridd. Mae'n archwilio cylchdroi a rheoli maetholion ar gyfer iechyd pridd.
Trafodir pwysigrwydd glaswelltiroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhywogaethau porfa a mathau o lystyfiant. Bydd y gweithdai ar gymysgeddau hadau a rhaglenni maetholion yn gysylltiedig â’r adrannau am gydrannau pridd.
Bydd treialon maes yn sail i'r adran ar gnydau. Nod y darlithoedd, y gweithdai a'r dosbarthiadau ymarferol yw dilyn cylch bywyd y cnwd ac arwain penderfyniadau ar reoli cnydau. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: cynnyrch, dewis mathau, gwarchod cnydau a chynllunio maetholion.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth reoli eu plotiau cnydau.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd holl aseiniadau'r modiwl hwn yn cynnwys adnabod problemau wedi eu cysylltu â thyfiant planhigion neu rheolaeth priddoedd yn y maes. Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr greu strategaeth rheolaeth i ymateb i hyn.
Gallu digidol Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyfradd hau, poblogaeth planhigion a chynnyrch y planhigyn.
Synnwyr byd go iawn Mae'r sgil o adnabod cnydau gwahanol yn drosglwyddiadwy i nifer o ddiwydiannau megis amaethyddiaeth, cadwraeth ac ymgynghori.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4