Agronomeg a Gwelliant Cnydau
- Cod y Modiwl
- BG27600
- Teitl y Modiwl
- Agronomeg a Gwelliant Cnydau
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Cennydd Jones
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad Glaswelltir: Mae gan y dasg hon ddwy elfen. Y cyntaf yw adroddiad cynghori yn seiliedig ar ddewis o bynciau allweddol glaswelltir neu gnydau porthiant. Yr ail yw dewis o fideo 3 munud ar ffurf "Reel" Instagram / fideoTikTok NEU boster wedi'i anelu at ffermwyr o ddewis o 4 pwnc. 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Gwarchod Cnydau: Paratowch gynllun amddiffyn cnydau ar gyfer cnwd âr o'ch dewis a dyfir mewn lleoliad organig neu gonfensiynol. Dylai'r wybodaeth fod ar ffurf canllaw i dyfwyr (growers guide). Dylai'r prif gydrannau gynnwys 1. Plâu, chwyn a chlefydau disgwyliedig yn y drefn y maent yn debygol o ddigwydd. 2. Strategaethau rheoli gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer rheoli plâu integredig. 15 Munud | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Glaswelltir: Mae gan y dasg hon ddwy elfen. Y cyntaf yw adroddiad cynghori yn seiliedig ar ddewis o bynciau allweddol glaswelltir neu gnydau porthiant. Yr ail yw dewis o fideo 3 munud ar ffurf "Reel" Instagram / fideoTikTok NEU boster wedi'i anelu at ffermwyr o ddewis o 4 pwnc. 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Gwarchod Cnydau: Paratowch gynllun amddiffyn cnydau ar gyfer cnwd âr o'ch dewis a dyfir mewn lleoliad organig neu gonfensiynol. Dylai'r wybodaeth fod ar ffurf canllaw i dyfwyr (growers guide). Dylai'r prif gydrannau gynnwys 1. Plâu, chwyn a chlefydau disgwyliedig yn y drefn y maent yn debygol o ddigwydd. 2. Strategaethau rheoli gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer rheoli plâu integredig. 15 Munud | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
- Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
- Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
- Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
- Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau/glaswelltir, o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn disgrifio agronomeg sylfaenol ystod o gnydau torri âr a’r rhai y gellir eu cynaeafu â chombein, gan gynnwys tatws, betys siwgr, rêp had olew a ffa maes. Ymhlith y nodweddion agronomegol mae cylchdroi, math o bridd, hau a sefydlu planhigion, maeth, gwarchod cnydau, cynaeafu a storio cnydau ar ôl eu cynaeafu. Bydd systemau gwrthgyferbyniol o gynhyrchu cnydau a glaswelltir yn cael eu trafod, a bydd effeithlonrwydd y systemau hyn yn cael eu cloriannu. Bydd cyfyngiadau biotig ar gynhyrchu yn canolbwyntio ar effaith clefydau, chwyn a phlâu ar gnydau âr, gan gynnwys mecanwaith a maint colledion cynnyrch, ymwrthedd cnydau, rheoli cemegol a biolegol, rheoli cnydau integredig. Yn olaf, bydd amcanion a chyflawniadau gwaith bridio cnydau âr, glaswellt a chodlysiau yn cael eu hadolygu.
Bydd y darlithoedd hyn yn cynnwys trafodaeth am yr amrywiaeth o weithdrefnau datblygu, cofrestru, lluosi ac ardystio, ac effaith debygol datblygiadau mewn biotechnoleg ar gynhyrchu a rheoli cnydau yn y dyfodol.
Nod
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyrwyr allu:
1. Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
2. Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
3. Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
4. Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
5. Deall pwysigrwydd cynhyrchu amrywiaethau cnydau/glaswelltir, o ran nodweddion agronomeg ac ansawdd.
Cynnwys
Systemau sy’n ymdrin â chnydau âr, glaswellt a phorthiant
Cylchdroi cnydau a chynllunio cylchdroi
Rheoli cnydau mewn modd integredig
Ar gyfer glaswelltir a phorthiant:
Systemau rheoli, cynhyrchu a gwarchod yr amgylchedd
Rheoli pori
Cadwraeth porthiant
Cnydau porthiant
Ar gyfer planhigion cnydau gan gynnwys rêp had olew, tatws, betys siwgr a ffa maes:
Gofynion y farchnad
Nodweddion amrywiaethau o borfeydd a sut y cânt eu defnyddio
Cylchdroi, paratoi pridd a sefydlu hadau
Maeth
Gwarchod planhigion: chwyn, afiechydon a rheoli plâu
Cynaeafu a thrin a storio ar ôl y cynhaeaf
Gwarchod cnydau
Sut mae clefydau’n datblygu ac epidemioleg
Strategaethau rheoli clefydau
Plâu a difrod gan blâu
Strategaethau rheoli plâu
Bioleg a chystadleuaeth chwyn
Rheoli chwyn
Gwarchod cnydau integredig
Bridio planhigion
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol. |
| Gallu digidol | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyllidebau porthiant, twf glaswellt a chyfran hau maetholion |
| Synnwyr byd go iawn | Mae'r ddau aseiniad yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr wneud gwaith sydd yn debyg i sefyllfa go iawn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
