Traethawd Estynedig
- Cod y Modiwl
- CB35540
- Teitl y Modiwl
- Traethawd Estynedig
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Jonathan Fry
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
AB25320 neu CB25320
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Wyn Morris
- Dr Jonathan Fry
- Mrs Nerys Fuller-Love
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Poster: 500 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Traethawd Hir: 10000 o eiriau | 90% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd Hir: 10000 o eiriau | 90% |
| Asesiad Ailsefyll | Poster: 500 o eiriau | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Asesu a chloriannu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.
- Llunio adolygiad o destunau perthnasol.
- Cynllunio a chynnal ymchwil yn ymwneud â busnes.
- Dadansoddi canlyniadau a’u cyflwyno.
- Cyflwyno trafodaeth, casgliadau ac argymhellion dilys.
- Nodi unrhyw oblygiadau perthnasol yn ymwneud â rheolaeth neu bolisi.
- Adlewyrchu ar sut y gall y sgiliau academaidd a'r sgiliau byd gwaith a ddatblygwyd yn ystod y modiwl gael eu cymhwyso tuag at cyflogaeth yn y dyfodol neu astudiaethau pellach
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn cyfuno sgiliau rheoli busnes, marchnata, economeg, cyllid busnes a rheoli twristiaeth o fewn fframwaith astudiaeth fanwl o bwnc a ddewisir gan y myfyriwr, dan arweiniad aelodau o staff academaidd. Darperir cymorth trwy ddarlithoedd ar dechnegau ymchwil, rheoli prosiectau, goblygiadau rheolaethol, gweithdai, seminarau a goruchwyliaeth.
Cynnwys
Nid oes maes llafur penodol. Mae'r darlithoedd, y seminarau a'r gweithdai yn cynnig arweiniad cyffredinol ar ddylunio a methodoleg ymchwil. Gellir dewis pwnc ar gyfer y prosiect ymchwil o unrhyw faes yn ymwneud ag economeg, cyllid, busnes a rheolaeth, marchnata neu reoli twristiaeth, ar yr amod bod digon o ddeunydd darllen addas ar gael, a bod aelod o staff ar gael i arolygu yn y maes astudio dan sylw. Dewisir y pwnc mewn ymgynghoriad â chydlynydd y modiwl ac aelodau eraill o staff ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trwy arolygu, datblygu’r cynnig ymchwil, monitro cynnydd, adolygu drafft |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Hunan-reolaeth, blaengaredd, gallu gweithio’n annibynnol, a hunan-ymwybyddiaeth |
| Datrys Problemau | Trafod mewn darlithoedd paratoadol, datblygu cynnig prosiect a rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith mewn ymchwil ac wrth gwblhau adroddiad. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu’r sgiliau i allu dysgu’n annibynnol |
| Rhifedd | Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd |
| Sgiliau pwnc penodol | Cymhwyso sgiliau ansoddol a meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol |
| Sgiliau ymchwil | Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o amryw ffynonellau er mwyn paratoi adroddiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data, ac wrth baratoi a chyflwyno’r adroddiad |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
