Cyflwyniad i Droseddeg
- Cod y Modiwl
- CT12220
- Teitl y Modiwl
- Cyflwyniad i Droseddeg
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Miss Demi John
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT12220 neu LC12220
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT22220 neu LC22220
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC32220
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Miss Demi John
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Perfformiad seminar: | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad Ar Lein: 1 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad ar lein: 1 Awr Arholiad na welir ymlaen llaw 1.5 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd;
- Nodi sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg
- Deall sut mae datblygiadau mewn theori yn esblygu;
- Deall sut mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes;
- Nodi’r cryfderau a’r cyfyngiadau o ran potensial esboniadol theori
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n lleoli safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol
Cynnwys
Bydd y prif themâu a ystyrir yn cynnwys:
Cyflwyniad i Droseddeg
Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol
Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd
Troseddeg Gymdeithasegol
Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol
Damcaniaethau Straen Cymdeithasol
Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol
Troseddeg Is-ddiwylliannol
Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol
Labelu
Troseddeg Feirniadol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon |
| Datrys Problemau | Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol |
| Gwaith Tim | Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain |
| Rhifedd | Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud â deall theori troseddegol. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu trwy ddod o hyd i lenyddiaeth ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grŵp |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
