Lleoliad Proffesiynol Troseddeg

Cod y Modiwl
CT30440
Teitl y Modiwl
Lleoliad Proffesiynol Troseddeg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu LC12220 neu LC22220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC30440
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CD31020 neu DG31020
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT22520 neu LC22520
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT33340 neu CT35040 neu LC33340 neu LC35040
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cais am leoliad: Sicrhau lleoliad addas at ddibenion cwblhau'r modiwl 500 o eiriau 10%
Asesiad Semester Portffolio Lleoliad: Mwyafswm 4,000 o eiriau + tystiolaeth e.e. llawlyfrau hyfforddi, taflenni amser, canllawiau asiantaeth ac ati) yn cynnwys sylwebaeth adfyfyriol sy'n tynnu ar y cysylltiadau a arsylwyd rhwng y dystiolaeth a'r arfer. 50%
Asesiad Semester Adolygiad Proffesiynol: Adolygiad professiynol gan sefydliad lleoliad 1000 o eiriau 20%
Asesiad Semester Cyflwyniad: Cyflwyniad llafar neu poster yn cynhadledd myfyrwyr 10 Munud 20%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster: Cyflwyniad poster gyda crynodeb ysgrifennedig 1,500 o eiriau 10 Munud 20%
Asesiad Ailsefyll Cais am leoliad: Sicrhau lleoliad addas at ddibenion cwblhau'r modiwl 500 o eiriau 10%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Lleoliad: Mwyafswm 4,000 o eiriau + tystiolaeth e.e. llawlyfrau hyfforddi, taflenni amser, canllawiau asiantaeth ac ati) yn cynnwys sylwebaeth adfyfyriol sy'n tynnu ar y cysylltiadau a arsylwyd rhwng y dystiolaeth a'r arfer. 50%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad proffesiynol: Adolygiad proffesiynol gan sefydliad lleoliad 1000 o eiriau 20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Sicrhau a chynnal lleoliad gwaith am gyfnod gofynnol (isafswm o 10 diwrnod / 75 awr)
  2. Dangos dealltwriaeth gymhwysol o gysyniadau a damcaniaethau troseddeg mewn amgylchedd proffesiynol
  3. Gwerthuso'n feirniadol rôl, swyddogaeth a chyd-destun gweithredol y sefydliad lleoliad
  4. Cymhwyso egwyddorion moesegol priodol, cyfrinachedd a chynnal ymddygiad proffesiynol yn unol â disgwyliadau'r sefydliad
  5. Dangos sgiliau cyflogadwyedd datblygedig, gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, gwaith tîm a hunanreolaeth
  6. Cynhyrchu gwaith asesedig myfyriol ac analiticaidd sy'n integreiddio llenyddiaeth academaidd gyda phrofiad y lleoliad

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth droseddegol, sgiliau ymchwil a safbwyntiau damcaniaethol mewn lleoliad proffesiynol. Trwy leoliad sylweddol yn y gweithle (neu sawl lleoliad llai) gyda sefydliadau perthnasol - megis yr heddlu neu unedau atal trosedd, gwasanaethau prawf neu wasanaethau cefnogi ailsefydlu, asiantaethau cymorth i ddioddefwyr, NGOau/elusennau sy'n gweithio gyda throseddwyr, dioddefwyr neu grwpiau agored i niwed, timau ymchwil academaidd neu gymhwysol neu bartneriaethau diogelwch cymunedol - bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol, yn gwella cyflogadwyedd ac yn myfyrio'n feirniadol ar y berthynas rhwng damcaniaeth a gweithredu troseddegol. Ar ôl hyfforddiant, disgwylir iddynt gyflawni o leiaf nifer penodol o oriau mewn gwaith gwirfoddol neu waith â thâl. Rhaid i'r lleoliad(au) gael eu cymeradwyo gan gydlynydd y modiwl cyn dechrau. Rhaid i fyfyrwyr gael goruchwyliwr penodol / pwynt cyswllt yn y sefydliad. Anogir myfyrwyr hefyd i ymgysylltu uniongyrchol â'r sector cyfiawnder troseddol mewn ffyrdd eraill (e.e. cynadleddau, ymweliadau safle a chyfleoedd cysgodi).

Cynnwys

Gwaith Paratoi Cyn Lleoliad:

Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
Cyflwyniad i waith maes a'i beryglon
Ymarfer myfyriol
Ymddygiad proffesiynol yn gweithle
Hyfforddiant sgiliau cyflwynol a gynigir gan sefydliadau
Profiad lleoliad
Adolygu a chyfarwyddyd ar ymarfer myfyriol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Sicrhau lleoliad gwaith ac ymweithio mewn amgylchedd proffesiynol fydd yn heriol ac yn gofyn i fyfyrwyr fod yn hyblyg ac yn amyneddgar yn eu dulliau gweithredu
Cydlynu ag erail Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tim felly bydd y modiwl yn hanfodol yn gwella sgiliau gweithio fel tim
Cyfathrebu proffesiynol Bydd cyfathrebu llafar yn cael ei annog a'i ddatblygu yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac yn eu rhyngweithiadau â chydweithwyr a/neu gleientiaid yn ystod eu lleoliad gwaith, ac yn cael ei asesu yn y Gynhadledd Myfyrwyr. Bydd sgiliau ysgrifenedig yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy'r portffolio adfyfyriol.
Datrys Problemau Creadigol Yn ystod eu lleoliad bydd angen iddynt ddatrys llawer o faterion ymarferol, a fydd yn datblygu ac yn gwella sgiliau myfyrwyr mewn datrys problemau beirniadol ac ymarferol.
Gallu digidol Bydd chwiliadau mewn cronfeydd data electronig ar-lein a chylchgronau yn darparu ymarfer mewn sgiliau TG. Yn dibynnu ar eu lleoliadau, mae disgwyl i'r myfyrwyr hefyd ddod ar draws systemau casglu cronfeydd data newydd ar gyfer gwybodaeth cleientiaid.
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd datblygiad sgiliau penodol i'r pwnc yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr, ond bydd cynnwys a lled y sgiliau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad.
Synnwyr byd go iawn Bydd y lleoliad yn galluogi myfyrwyr i brofi rhai o'u dysgu troseddegol mewn cyd-destun cymhwysol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6