Datrys Problemau ac Ymgynghori mewn Troseddeg
- Cod y Modiwl
- CT33300
- Teitl y Modiwl
- Datrys Problemau ac Ymgynghori mewn Troseddeg
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Miss Demi John
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT12220 neu CT22220 neu LC12220 neu LC22220
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT22520 neu LC22520
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC33340
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT30440 neu CT35040 neu LC30440 neu LC35040
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cais i'r Grŵp Ymghynori: Cais i sicrhau lle mewn grŵp ymgynhori (unigol). 300 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Adolygiad Llenyddol grŵp: 3000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Grŵp: Adroddiad ysgrifennedig sy'n crynhoi'r materion yn fyr ac yn cynnig atebion realistig (gradd grŵp). 1000 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Gweithgaredd Darlledu Grŵp: Cyfathrebu canfyddiadau mewn modd hygyrch i gynulleidfa ddi-arbenigedd. 2000 o eiriau | 25% |
| Asesiad Semester | Log Adlewyrchol: Log myfyrio unigol o gyfarfodydd. 2000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar Grŵp: Cyflwyniad llafar grŵp yn y gynhadledd myfyrwyr 15 Munud | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Poster: Cyflwyniad poster unigol gyda crynodeb ysgrifenedig o 1500 i grynhoi'r cyflwyniad. 2500 o eiriau | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Cais i'r Grŵp Ymgynghori: Cais i sicrhau lle mewn grŵp ymgynhori (unigol). 300 o eiriau | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Log Adlewyrchol: Log adlewyrchol unigol o gyfarfodydd. 2000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad Llenyddol: Adolygiad llenyddol grŵp 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Gweithgaredd Darlledu: Cyfathrebu canfyddiadau mewn modd hygyrch i gynulleidfa ddi-arbenigol. 1000 o eiriau | 25% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad: Adroddiad ysgrifennedig sy'n crybwyll yn gryno'r materion a'r atebion realistig a gynigir. 1000 o eiriau | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Cwblhau cais i grŵp ymgynghori, gan gynhyrchu crynodeb proffesiynol sy'n nodi eich prif gryfderau a gwendidau ar gyfer y rôl.
- Dadansoddi'n feirniadol problem droseddegol byd go iawn gan ddefnyddio damcaniaeth berthnasol, ymchwil, polisi a chyd-destunau sy'n seiliedig ar ymarfer.
- Datblygu sgiliau ymgynghori gan gynnwys diffinio problemau, ymholiad ymchwil a rhesymu dadansoddol i lywio datrys problemau.
- Gweithio'n effeithiol mewn tim i ymchwilio, cynllunio, dylunio a chynnal prosiect ymgynghori bach.
- Cynhyrchu ac ynni'n arloesol argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymarfer a pholisi, a'u cyfathrebu'n effeithiol.
- Meithrin ymwybyddiaeth adfyfyriol a moesegol mewn gwaith troseddegol cymhwysol.
- Syntheseiddio llenyddiaeth academaidd ac arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa.
- Gweithio'n llwyddiannus gyda rheolwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiect effeithiol, hunan-gyfeiriad a datrys problemau drwy gydol y prosiect.
Disgrifiad cryno
Fel dewis arall yn lle modiwl traethawd hir, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect mawr gan weithredu fel ymgynghorwyr ar broblem droseddegol go iawn. Gan weithio mewn grwpiau bach ochr yn ochr ag aelod o staff (neu glwstwr ymchwil), bydd myfyrwyr yn ceisio goresgyn mater penodol sy’n ymwneud ag ardal benodol o droseddeg (e.e., cyfiawnder ieuenctid, camgymeriadau cyfiawnder, plismona, cam-drin domestig, cyn-filwyr, troseddau torfol, troseddeg werdd, troseddau treftadaeth ac ati).
Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddangos arferion gwaith cydweithredol, sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyflwyno canfyddiadau drwy ddulliau anghonfensiynol (e.e., gweledol, clywedol, artistig ac ati). Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr nad ydynt yn sicr am bwnc ymchwil annibynnol, ond sydd yn awyddus i ddatblygu profiadau trosglwyddadwy allweddol sy’n gysylltiedig â hynny, i ymgolli mewn pwnc ymchwil troseddegol penodol.
Cynnwys
Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain drwy fenter datrys problem gan oruchwyliwr (neu oruchwylwyr) sydd wedi enwebu maes ymchwilio penodol cyn dechrau pob blwyddyn academaidd. Gan weithio’n gydweithredol o fewn pob clwstwr, bydd angen i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi tystiolaeth, cynhyrchu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu adroddiad ymgynghori proffesiynol a chyflwyniad ar broblem droseddegol benodol fel y nodwyd. Mae’r modiwl yn cyfuno damcaniaeth droseddegol, ymchwil gymhwysol a datrys problemau byd go iawn. Ei nod yw datblygu sgiliau dadansoddi ymarferol, gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu proffesiynol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes cyfiawnder troseddol, diogelwch cymunedol, polisi ac ymchwil gymdeithasol gymhwysol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Bydd angen i fyfyrwyr addasu eu dull yn ôl eu hymchwil ar broblemau go iawn ac greu deunyddiau lledaenu a fydd yn apelio at gynulleidfa eang. |
| Cydlynu ag erail | Mae'r prosiect hwn yn gofyn i bob aelod o'r tim ymgynghori weithio'n agos gyda'i gilydd, cyfarfod yn rheolaidd a rhannu tasgau rhyngddynt. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd yn ofynnol i ddisgyblion cynhyrchu adroddiadau addas ar gyfer eu dosbarthu'n broffesiynol yn y maes, a ystod o ddeunyddiau dosbarthu i addasu i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys Llywodraeth a phobl sy'n gwneud polisiau, ymarferwyr, unigolion (gan gynnwys plant, os yw'n berthnasol) a'r cyhoedd ehangach. |
| Datrys Problemau Creadigol | Disgwylir i fyfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth troseddol i broblem o'r byd go iawn er mwyn creu datrysiadau posibl. |
| Gallu digidol | Disgwylir i fyfyrwyr greu portffolio digidol o'r gwaith, gan gynnwys deunyddiau lledaenu wedi'u cynllunio'n ddigidol. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt gyflwyno gan ddefnyddio meddalwedd cyflwyniadau yn y gynhadledd flynyddol i fyfyrwyr. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd disgyblion angen ysgrifennu adolygiad beirniadol o lenyddiaeth a rhagweld anawsterau bywyd go iawn sy'n ymwneud a'r problemau/atebion a gynigir. |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd angen i'r prosiect cyfan gael ei leoli'n amlwg o fewn sefyllfaoedd byd go iawn ac wrth fynd i'r afael a'r materion byd go iawn a ganfuwyd drwy broses y cynghorydd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
