Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg

Cod y Modiwl
CT35040
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT30440 neu CT33340 neu CT39020 neu LC30440 neu LC33340 neu LC39020
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC35040
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd estynedig: 8000-10,000 o eiriau ar gyfer y prosiect ymchwil ysgrifenedig. 60%
Asesiad Semester Cyflwyniad: Cyflwyniad (llafar neu boster) yng Nghynhadledd y Myfyrwyr 10 Munud 20%
Asesiad Semester Adroddiad Adfyfyriol: Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau 10%
Asesiad Semester Cais am gymeradwyaeth foesegol: 1000 o eiriau 10%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster: Cyflwyniad Poster gyda chrynodeb o 1,500 o eiriau 3000 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Cais am gymeradwyaeth foesegol: 1000 o eiriau 10%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig: Prosiect ymchwil ysgrifenedig 8000 - 10000 o eiriau. Dylai'r myfyriwr ailysgrifennu'r traethawd hir (ar yr un thema) gan ddefnyddio'r adborth a ddarparwyd gan y marciwr yn y cyflwyniad gwreiddiol. Disgresiwn y goruchwyliwr ynghylch a ddylid rhoi goruchwyliaeth ychwanegol. 60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Adfyfyriol: Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau 10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Cyflwyno, lleoli a gwerthuso cwestiwn ymchwil troseddegol/cyfreithiol yn feirniadol, mewn perthynas â'r llenyddiaeth ymchwil ehangach, y gellir ei brofi trwy brosiect ymchwil estynedig
  2. Cymhwyso a chynnal methodoleg/methodolegau ymchwil priodol i ymgymryd ag ymchwil ar gwestiwn(au) ymchwil penodol
  3. Dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion moesegol proffesiynol a fframweithiau moesegol sefydliadol sy'n briodol i'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyluniad ymchwil a fwriadwyd
  4. Cymhwyso llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa
  5. Dangos y gallu i gasglu, dehongli a gwerthuso data a dod i gasgliadau yn seiliedig ar y canfyddiadau a'u gosod yng nghyd-destun ehangach materion cyfreithiol, damcaniaethol, polisïol ac ymarferol y gwyddorau cymdeithasol
  6. Cynhyrchu traethawd estynedig sydd wedi'i strwythuro'n dda, yn gydlynol ac yn wreiddiol, gan ddangos dadansoddiad beirniadol a thrylwyredd academaidd.
  7. Gweithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiectau, hunangyfeirio a datrys problemau annibynnol effeithiol drwy gydol y broses ymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg yn fodiwl annibynnol, sy'n canolbwyntio ar ymchwil, mater i’r myfyriwr yw dylunio, cynllunio, cynnal a chyflwyno astudiaeth wreiddiol ar bwnc dewisol sy'n berthnasol i'w maes astudio. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu rhagdybiaethau neu gwestiwn(au) ymchwil addas, cydymffurfio ag egwyddorion moesegol y Brifysgol, adolygu llenyddiaeth bresennol, cymhwyso dulliau ymchwil priodol, dadansoddi canfyddiadau a chynhyrchu traethawd hir ysgrifenedig sylweddol o dan oruchwyliaeth academaidd. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr gyflwyno eu prif ganfyddiadau yng nghynhadledd myfyrwyr yr Adran.

Cynnwys

Mater i’r myfyriwr yw dewis pwnc ar gyfer ymchwil fanwl gyda chymeradwyaeth a chefnogaeth yr oruchwyliwr.
Wrth ymgymryd ag yr ymchwiliad manwl ar bwnc troseddegol/ cyfreithiol, bydd sesiynau dysgu ar gael i gefnogi'r myfyriwr i ymgymryd ag astudiaeth ymchwil fanwl ac i gefnogi myfyrwyr i gwblhau'r asesiad yn llwyddiannus.
Darperir cefnogaeth benodol i'r pwnc drwy'r broses oruchwylio mewn tiwtorialau unigol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo sgiliau datrys problemau a rheoli amser. Bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth gan eu goruchwyliwr ond yn y bôn byddant yn gweithio'n annibynnol wrth ddylunio, ymchwilio, cynllunio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig
Cydlynu ag erail Bydd angen i fyfyrwyr weithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig er mwyn cyflawni nod cyffredin.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf eu traethodau estynedig a bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hasesu trwy gyflwyniadau. Disgwylir iddynt hefyd gyfathrebu a gweithio gyda'u goruchwyliwr mewn modd proffesiynol.
Gallu digidol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio chwilio am ffynonellau trwy gronfeydd data electronig (megis Web of Science a Primo). Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd yn ystod y modiwl gan gynnwys Excel, PowerPoint ac SPSS ar gyfer Windows.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y traethawd estynedig yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn ddadansoddol ac yn feirniadol am eu maes ymchwil penodol.
Sgiliau Pwnc-benodol Y prosiect yw uchafbwynt dysgu myfyrwyr mewn cyfraith a/neu droseddeg, sydd wedi datblygu drwy gydol y cynllun gradd.. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o agweddau a chysyniadau allweddol eu disgyblaeth. Bydd gwerthfawrogiad o natur ymchwil foesegol yn y gyfraith a/neu'r gwyddorau cymdeithasol hefyd yn cael ei archwilio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6