Cymraeg Llafar

Cod y Modiwl
CY13020
Teitl y Modiwl
Cymraeg Llafar
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Eurig Salisbury
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
WE11220 neu WE11320
Cyd-Ofynion
CY11520 neu CY11720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Cathryn Charnell-White
Professor Mererid Hopwood
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Dyddiadur llafar hunanarfarnol: Recordiad sain MP3 yn crynhoi eich profiad dysgu a chynnydd yn ystod 5 wythnos gyntaf Semester 1 (10 munud). 40%
Asesiad Semester Arholiad llafar / oral exam: 20 Minutes 60%
Asesiad Ailsefyll Dyddiadur llafar: Recordiad sain MP3 yn crynhoi eich profiad dysgu a chynnydd yn ystod 5 wythnos gyntaf Semester 1 (10 munud). 30%
Asesiad Ailsefyll Arholiad llafar / oral exam: 20 Minutes 70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. ​1. Siarad Cymraeg ar bynciau amrywiol yn hyderus ar lefel Canolradd.
  2. 2. Cyrraedd safon Canolradd o safbwynt geirfa a gramadeg y Gymraeg.
  3. 3. Dangos dealltwriaeth o gyweiriau llafar y Gymraeg a medru defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar ar lefel Canolradd.

Disgrifiad cryno

Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr sy’n dysgu’r iaith o’r newydd, a hynny i lefel canolradd. Mae’r cwrs dwys yn caniatáu i fyfyrwyr bontio Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ar gynlluniau Q500 a Q522. Mae’r sesiynau ieithyddol a diwylliannol yn dyfnhau profiad myfyrwyr o’r iaith (geirfa, cystrawen, cywair) ac oherwydd natur ymarferol y sesiynau, yn eu cefnogi i fod yn siaradwyr hyderus. Un o fanteision ychwanegol y cwrs yw hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel iaith gymdeithasol, gan fod sesiynau cymdeithasol yn rhan annotod o’i strwythur hefyd.

Nod

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn ehangu eu geirfa Gymraeg ac yn gallu mynegi eu hunain gydag amser presennol, gorffennol, a dyfodol y Gymraeg, gan gynnwys ffurfiau personal ac amhersonol. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon B2 yn y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin (CEFR).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Mae galluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n hyderus ac yn briodol ar lafar wrth wraidd y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â geirfa, cystrawen a chywair llafar ac yn meithrin hyder i gyfathrebu’n hyderus ar lafar yn y Gymraeg.
Datrys Problemau Oherwydd natur ymarferol y modiwl, bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirda, cystrawen, cywair a mynegiant.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn sesiynau ymarferol y modiwl hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ac yn ymateb i adborth gan staff dysgu a chymheiriaid yn sesiynau ymarferol y modiwl hwn.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Dysgir am gyweiriau llafar y Gymraeg ac atgyfnerthir gallu’r myfyrwyr i gyfathrebu ar lafar yn y cywair priodol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell a’r BwrddDU wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio’r BwrddDU wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn, ynghyd ag ymchwilio arlein wrth baratoi ar gyfer sesiynau ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4