Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar
- Cod y Modiwl
- CY21420
- Teitl y Modiwl
- Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Llewelyn Hopwood
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Eurig Salisbury
- Dr Llewelyn Hopwood
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Ymarferion Iaith 2: (Semester 2 - Cyfieithu; Ysgrifennu rhydd; Cywiro ac esbonio) 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Ymarferion Iaith 1: (Semester 1 - Cyfieithu; Ysgrifennu rhydd; Cywiro ac esbonio) 1000 o eiriau | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr (Semester 2) | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarferion Iaith 1: 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarferion iaith 2: 1000 o eiriau | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Sillafu geiriau Cymraeg yn gywir heb gymorth geiriadur nac adnodd electronig fel Cysill
- 2. Dangos dealltwriaeth o’r treigladau.
- 3. Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg ac o’r gwahaniaethau cynyddol rhwng Cymraeg ffurfiol/llyfr a Chymraeg anffurfiol/llafar.
- 4. Dangos dealltwriaeth o deithi’r iaith Gymraeg trwy adnabod ac ysgrifennu Cymraeg graenus a chywir.
Disgrifiad cryno
Cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol er mwyn galluogi’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl i ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gyweiriau’r iaith, ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol: confensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau.
Cynnwys
Cyflwyniad i gyweiriau’r iaith ac i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol yw’r modiwl hwn, er mwyn galluogi’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl i ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gonfensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Darperir llyfryn pwrpasol sy’n gosod allan raglen waith y modiwl.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol ar lafar yn y gweithdai; medru egluro gwallau gramadegol yn y gwaith cwrs ac yn yr arholiad |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif. 4 |
| Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol. |
| Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y tasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Rhifedd | Amherthnasol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio’n annibynnol er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
