Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
- Cod y Modiwl
- CY22420
- Teitl y Modiwl
- Y Cyfieithydd a'r Sector Cyfieithu
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Rhianedd Jewell
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CY32420
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Cathryn Charnell-White
- Professor Mererid Hopwood
- Ms Elizabeth Morse
- Dr Rhianedd Jewell
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Tasgau cyfieithu: Pedair tasg gyfieithu (a'r tair tasg orau i'w hasesu) 1500 o eiriau | 30% |
| Asesiad Semester | Prawf Cyfieithu: 1 Awr yn y dosbarth ar gyfrifiadur 1 Awr | 30% |
| Asesiad Semester | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf Cyfieithu: 1 Awr yn y dosbarth ar gyfrifiadur 1 Awr | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Tasgau cyfieithu: Hyd at bedair tasg gyfieithu 1500 o eiriau | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 1500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Cyfieithu testunau proffesiynol eu natur i’r Gymraeg.
- Gwneud defnydd o adnoddau iaith ar-lein a rhaglenni cyfieithu peirianyddol yn effeithiol.
- Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg wrth gyfieithu.
- Dadansoddi heriau’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru.
- Dangos dealltwriaeth o hanfodion gwahanol fathau ar gyfieithu gan gynnwys cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn dysgu sgiliau cyfieithu proffesiynol ac yn rhoi cyflwyniad i heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu. Yn sgil y galw cynyddol am sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ar draws Cymru, mae natur y sector cyfieithu yn esblygu. Bydd darlithoedd y modiwl yn trafod datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru, gofynion y diwydiant, swyddogaeth a heriau cyfieithu ar y pryd a datblygiadau technegol yn y maes megis cyfieithu peirianyddol a chofau cyfieithu. Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle ichi ymarfer sgiliau cyfieithu, golygu a phrawf-ddarllen a dysgu am yr adnoddau ieithyddol sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith.
Nod
Amcan y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy ddefnydd o dechnoleg cyfieithu a dysgu dealltwriaeth o ofynion a heriau'r sector cyfieithu.
Cynnwys
Bydd 10 darlith yn cyflwyno gwahanol agweddau ar y diwydiant cyfieithu, egwyddorion cyfieithu a gwaith cyfieithwyr proffesiynol. Trafodir pynciau megis:
Datblygiad cyfieithu yng Nghymru
Hanfodion cyfieithu proffesiynol
Cyfieithu yng ngweithleoedd Cymru
Cyfieithu peirianyddol
Cofau cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd
Bydd gweithdai’r modiwl yn rhoi cyfle ichi ymarfer cyfieithu ar bapur ac ar gyfrifiadur ac ymarfer eich sgiliau golygu a phrawf-ddarllen. Cewch chi ddysgu am yr adnoddau iaith a ddefnyddir gan gyfieithwyr a gwneud defnydd ohonynt wrth ymarfer. Bydd cyfle yn y gweithdai hefyd i dderbyn adborth adeiladol ar eich gwaith cyfieithu.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Bydd cyfle i weithio mewn grwpiau wrth lunio cyfieithiadau mewn rhai gweithdai. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Datblygir sgiliau cyfathrebu proffesiynol yn y Gymraeg ar ffurf cyfieithiadau ysgrifenedig a thraethawd. |
| Datrys Problemau Creadigol | Un o hanfodion y modiwl yw datblygu sgiliau cyfieithu sy’n galw am waith dadansoddi wrth drosi testun i iaith arall. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen, cywair a mynegiant. |
| Gallu digidol | Datblygir dealltwriaeth o gyfieithu peirianyddol, cofau cyfieithu ac adnoddau iaith ar-lein megis geiriaduron a phyrth termau. Anogir y myfyrwyr hefyd i wneud defnydd o’r Bwrdd Du. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Datblygir sgiliau dadansoddi wrth drafod heriau a hanfodion y diwydiant cyfieithu ac egwyddorion cyfieithu. |
| Myfyrdod | Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’u perfformiad drwy’r tasgau cyfieithu rheolaidd. Dysgir sgiliau golygu a phrawf-ddarllen sy’n cynorthwyo myfyrwyr i wella’u gwaith cyfieithu eu hunain. |
| Synnwyr byd go iawn | Datblygir dealltwriaeth o ofynion a heriau’r diwydiant cyfieithu proffesiynol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
