Rhyddiaith y Dadeni
- Cod y Modiwl
- CY23620
- Teitl y Modiwl
- Rhyddiaith y Dadeni
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Bleddyn Huws
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CY33620
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 2500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 2500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gallu trafod rhai o brif gyflawniadau'r dyneiddwyr Cymraeg a byddant yn dra ymwybodol o bwysigrwydd y cyflawniadau hynny.
- Byddant yn gallu trafod y syniadau newydd ym maes dysg a chrefydd a ddaeth i Gymru o'r Cyfandir yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
- Byddant yn gallu trafod y prif gerrig milltir yn hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg ac yn gallu trafod yn feirniadol gyfraniad rhai unigolion i’r gwaith cyfieithu.
- Byddant yn gallu trafod gwaith rhai o'r dyneiddwyr Cymraeg gan ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ragymadroddion y dyneiddwyr i'w gweithiau ynghyd ag astudiaeth o gynnrych llenyddol dyneiddwyr penodol megis William Salesbury, Gruffudd Robert a William Morgan.
Cynnwys
Dyma benawdau’r pynciau a drafodir yn y dosbarth:
(i) [Darlith 1-4] Cyflwyniad cyffredinol i gyfnod y Dadeni;
(ii) [Darlith 5-8] Agwedd y dyneiddwyr at yr iaith
Gymraeg;
(iii) [Darlith 9-10] Cyfraniad Gruffydd Robert
(iv) [Darlith 11-12] Cyfraniad William Salesbury;
(v) [Darlith 13-14] Cyfraniad William Morgan a
Beibl 1588;
(vi) [Darlith 15-16] Robert Gwyn a gweithiau
llenyddol y Reciwsantiaid;
(vii) [Darlith 17-20] Dadl yr ysgolheigion a’r beirdd.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
| Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau penodol. |
| Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifendig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
| Rhifedd | Amherthnasol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg |
| Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol. |
| Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
