Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
- Cod y Modiwl
- CY30320
- Teitl y Modiwl
- Gweithdai Ysgrifennu Creadigol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Eurig Salisbury
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CY20420 neu CY30420
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Eurig Salisbury
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Pecyn o dasgau (4 tasg): Pecyn o dasgau creadigol ar ffurf barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau, sy’n deillio o’r gweithdai creadigol;4 tasg 900 o eiriau yr un (600 o eiriau creadigol & 300 o eiriau o sylwebaeth)Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tasgau nas asesir yn Semester ac yn derbyn adborth arnynt. 3600 o eiriau | 90% |
| Asesiad Semester | Cymryd rhan mewn noson lenyddol: trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Pecyn o dasgau (4 tasg): Pecyn o dasgau creadigol ar ffurf barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau, sy’n deillio o’r gweithdai creadigol4 tasg 900 o eiriau yr un (600 o eiriau creadigol & 300 o eiriau o sylwebaeth)Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflwyno tasgau nas asesir yn Semester 1 ac yn derbyn adborth arnynt. 3600 o eiriau | 90% |
| Asesiad Ailsefyll | Darlleniad creadigol (recordiad): Bydd myfyrwyr yn cyflwyno recordiad a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol. | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) sy’n ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i bynciau rhagosodedig y gweithdai.
- 2. Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb yn greadigol ac yn ddeallusol i adborth, ar papur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod y gweithdy).
- 3. Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.
- 4. Llunio pedwar darn o waith creadigol gorffenedig, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.
Disgrifiad cryno
Bydd gweithdai’r modiwl hwn yn gwneud dau beth: rhoi sylfaen theoretig gadarn i fyfyrwyr ym maes ysgrifennu creadigol a chynnig chyfle iddynt gymhwyso’r theori mewn ymarferion creadigol. Bydd dadansoddi a thrafod cynnyrch yr ymarferion yn rhan annatod o’r broses greadigol a golygyddol.
Mae’r modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y pecyn creadigol a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Gan fod disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Cynnwys
Cynhelir cyfres o weithdai a fydd yn cynnwys cyflwyniad, ymarferion a thrafodaeth ar y pynciau canlynol:
• Creadigrwydd ac Ymchwil mewn Ysgrifennu Creadigol
• Ffurf a Strwythur:
• Rhyddiaith (ffurfiau estynedig a byrion; nofel – stori fer – llên meicro)
• Barddoniaeth (ffurfiau bach)
• Plot
• Disgrifio
• Safbwynt
• Pobl
• Llais: cyfansoddi a pherfformio
• Deialog
• Diwygio, golygu a chaboli testunau creadigol
Dosberthir canllawiau ysgrifenedig ar gyfer y sylwebaeth feirniadol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun theoretig/thematig y gweithdy. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif 4. |
| Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol. |
| Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grwp yn ystod y gweithdai. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer pob tasg yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblgyiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol. |
| Rhifedd | Amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
