Prosiect Annibynnol
- Cod y Modiwl
- CY35900
- Teitl y Modiwl
- Prosiect Annibynnol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Cathryn Charnell-White
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Mae'r modiwl hwn yn greiddiol i fyfyrwyr Q5P0 ac yn ddewisol i fyfyrwyr ar gynlluniau eraill yr Adran - Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Cathryn Charnell-White
- Ms Elizabeth Morse
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cynllun ymchwil manwl: 1500 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Prosiect Annibynnol: 8,500 o eiriau yn achos traethawd neu swmp o waith cyfatebol yn achos prosiect arall | 80% |
| Asesiad Ailsefyll | Prosiect Annibynnol: 8500 o eiriau | 80% |
| Asesiad Ailsefyll | Cynllun ymchwil manwl: 1500 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- trefnu a chydlynu prosiect seiliedig ar ymchwil bersonol.
- datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n annibynnol ac yn effeithiol o fewn terfynau amser penodol.
- arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r ffynonellau cynradd ac eilradd perthnasol.
- cynhyrchu prosiect y mae ei ddiwyg yn cyd-fynd gyda chonfensiynau cyfeirnodi a safonau academaidd addas.
Disgrifiad cryno
Cynigia rhan gyntaf y modiwl ragbaratoad i fyfyrwyr er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer prosiect hir ar lefel israddedig. Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r prosiect arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod sut i ddewis a diffinio testun prosiect hir a sut i gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir hyfforddiant i ddod o hyd i ffynonellau ac i lunio llyfryddiaeth. Erbyn diwedd Semester 1 bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl (tua 1,500 o eiriau). Yn Semester 2 bydd myfyrwyr yn cyfarfod a^'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio a chyflawni'r prosiect hir.
Nod
Galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig yn y Gymraeg (neu waith prosiect cyfatebol yn y Gymraeg) ar bwnc perthnasol i'w cynllun gradd.
Cynnwys
Semester Un: 6 sesiwn (12 awr):
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwylwyr (2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy I, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy II, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Semester Dau: Cyfarfodydd unigol gyda’r cyfarwyddwr yn ôl y galw (hyd at 5 awr).
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdai a'r sesiynau tiwtorial lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg au cynnydd, ynghyd â thrwy'r broses o lunio'r prosiect hir. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith estynedig a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
| Datrys Problemau | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posibl a all godi wrth gynllunio ac ymchwilio i brosiect ymchwil a byddant yn trafod problemau ac atebion posibl yn y gweithdai a chyda'r goruchwylwyr. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. |
| Sgiliau ymchwil | Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. |
| Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-ROM, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
