Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr

Cod y Modiwl
HA10420
Teitl y Modiwl
Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Rhun Emlyn
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
HY10420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li
Dr Arddun Arwyn
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn
Dr Steve Thompson

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Semester Arholiad agored: 1000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored: 1000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth o arwyddocad ffynonellau gwreiddiol wrth astudio hanes.
  2. Dangos dealltwriaeth o’r amrywiaeth o fathau o ffynonellau gwreiddiol a'u defnydd.
  3. Dadansoddi a dehongli ffynhonnell benodol a’i gosod yn ei chyd-destunau hanesyddol a hanesyddiaethol.

Disgrifiad cryno

O lawysgrifau i bapurau newydd, dogfennau swyddogol i gerddoriaeth, tros y blynyddoedd mae haneswyr wedi gwneud defnydd o amrediad eang o ffynonellau er mwyn dehongli’r gorffennol. Bwriad y modiwl yw eich cymryd ar daith trwy hanes gan ganolbwyntio ar yr union ddeunyddiau a ddefnyddiwyd gan haneswyr er mwyn deall hanes. Cyflwynir myfyrwyr i’r amrywiaeth o ffynonellau a ddefnyddir gan ein darlithwyr yn eu hymchwil eu hunain ac fe’u dysgir i’w dadansoddi. Ffynonellau gwreiddiol yw’r cliwiau a ddefnyddir gan haneswyr er mwyn creu darlun o’r gorffennol. Dysgir myfyrwyr ar y modiwl i ymwneud yn feirniadol â’r rhain a pharatoir myfyrwyr i wneud eu gwaith ditectif hanesyddol eu hunain yn y dyfodol.

Cynnwys

Cyflwyna’r modiwl hwn fyfyrwyr i amrediad o ffynonellau gwreiddiol a’u defnydd gan haneswyr. Ymhob un o’r naw gweithdy dwyawr cyflwynir myfyrwyr i ffynhonnell wreiddiol benodol, ei defnydd gan haneswyr a sut i’w dadansoddi. Bydd elfen ymarferol o weithio â deunydd gwreiddiol ymhob gweithdy yn ogystal â gwybodaeth am ffyrdd mae haneswyr wedi eu defnyddio. Adlewyrcha’r modiwl ddiddordebau ymchwil aelodau staff yr adran ac felly canolbwyntir ar y ffynonellau a ddefnyddir ganddynt. Archwilir amrediad eang o ddeunyddiau, gan gynnwys ffynonellau archifol, dogfennau personol, diwylliant materol a ffynonellau gweledol a chlyweledol ymysg eraill. O fewn gweithdai unigol astudir ffynonellau megis llythyrau, dyddiaduron, papurau newydd, caneuon, papurau personol, hanes llafar, ffilmiau a darluniau, megis posteri neu ffotograffau. Ar wahan i’r naw gweithdy bydd hefyd darlith gyflwyniadol, sesiwn ymarferol er mwyn paratoi cyflwyniadau grŵp a sesiwn llafar er mwyn asesu cyflwyniadau grwp.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Datablygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn y traethawd a sgiliau cyfathrebu llafar yn y cyflwyniad grwp.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn datblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys rheoli amser, ymchwil a chyfathrebu a fydd o gymorth iddynt adnabod eu cryfderau wrth ystyried gyrfaoedd posibl.
Datrys Problemau Adnabod problemau a ffactorau all ddylanwadu ar atebion posibl; datblygu ffyrdd creadigol o ddatrys problemau; dadansoddi manteision ac anfanteision atebion posibl.
Gwaith Tim Mae gwaith tim yn rhan hanfodol o’r gweithdai a’r aseiniadau, a disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu’n llawn i’r trafodaethau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu, mae'r modiwl yn manteisio myfyrwyr ag amrywiaeth o ddulliau addysgu, sy'n helpu myfyrwyr datblygu hyder yn eu hastudiaethau. Byddant hefyd yn addasu i ddadansoddi amrediad o ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwr yn datblygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ffynonellau gwreiddiol a’r sgiliau i’w dadansoddi.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymchwil wrth ddadansoddi ffynonellau gwreiddiol ac ystyried eu cyd-destun. Bydd yr ymchwil yn datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth.
Technoleg Gwybodaeth Mae pob rhan o’r modiwl yn cynnwys rhywfaint o ddefnydd o dechnoleg gwybodaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4