Ewrop a'r Byd, 1000-2000

Cod y Modiwl
HA11420
Teitl y Modiwl
Ewrop a'r Byd, 1000-2000
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Rhun Emlyn
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
HY12420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li
Dr Arddun Arwyn
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn
Dr Steve Thompson

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Arholiad agored: 1000 Words 50%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored: 1000 Words 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig: 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. Adnabod a thrafod y dadleuon hanesyddiaethol allweddol am yr ymwneud rhwng Ewrop a’r byd ehangach yn y cyfnod 1000-2000.
  2. 2. Arddangos dealltwriaeth o rol gwleidyddiaeth, masnach, syniadau, ymfudo a thrais yn ymwneud Ewrop a’r byd dros amser.
  3. 3. Pwyso a mesur amrediad o fathau o ffynonellau gwreiddiol sy’n gysylltiedig â phum prif thema’r modiwl a’r cyfnodau gwahanol a astudir.
  4. 4. Defnyddio perspectif cymharol i drafod dylanwad perthynas Ewrop a gweddill y byd.

Disgrifiad cryno

O Groesgadau yr Oesoedd Canol, i ddarganfyddiad America yn y bymthegfed ganrif a Rhyfeloedd Byd yr ugeinfed ganrif, lluniwyd hanes Ewrop gan ymwneud â’r byd ehangach. Bwriad y modiwl hwn yw archwilio themau, digwyddiadau a datblygiadau allweddol yn hanes perthynas Ewrop gyda gweddill y byd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf. Trwy astudio pump thema – pwer, trais, syniadau, ymfudo a masnach – ystyrir y rhan mae Ewrop wedi ei

chwarae yn y byd ehangach a sut mae’r cysylltiadau hyn wedi newid Ewrop. Cyflwynir myfyrwyr i feysydd hanesyddol newydd ac agwedd byd-eang i’r pwnc a fydd yn rhoi blas o’r pynciau a’r themâu y gellir arbenigo ynddynt yn rhan dau.

Cynnwys

Darlithoedd

Darperir cyflwyniad i’r modiwl a’r themâu allweddol yn y ddarlith gyntaf. Rhennir gweddill y cwrs i bump thema – pŵer, trais, syniadau, ymfudo a masnach. Ceir cyfres o dair neu bedair darlith i bob thema. Ar ddechrau pob cyfres ceir darlith yn cyflwyno’r thema a darparu trosolwg cysyniadol a chronolegol. Astudiaethau achos fydd yn nwy neu dair darlith arall y gyfres, a fydd yn archwilio’r thema mewn cyd-destun penodol. Er enghraifft, yn y gyfres ar ymfudo bydd darlith yn amlinellu’r cysyniad o ymfudo a darparu trosolwg o ymfudo rhwng Ewrop a’r byd ehangach yn y cyfnod 1000-2000. Bydd y ddarlith hefyd yn cyflwyno’r ddwy neu dair astudiaeth sy’n dilyn a’u lleoli o fewn cyd-destun ehangach y thema. Ceir cyfle yn yr astudiaethau achos i archwilio ymfudo mewn cyd-destun daearyddol neu amserol penodol megis coloneiddio’r Byd Newydd ac ymfudo economaidd yr oes fodern diweddar.

Seminarau
1. Pŵer
2. Masnach
3. Ymfudo
4. Syniadau
5. Trais

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Rhifedd Trwy drafodaeth achlysurol o ddata rhifyddol perthnasol e.e. ffigyrau, graffiau, tablau.
Sgiliau pwnc penodol Dadansoddiad hanesyddol o ddeunydd ysgrifenedig a materol. Dadansoddiad cymharol o brofiadau gwahanol wledydd o ddatblygiadau a digwyddiadau.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4