Cyflwyno Hanes

Cod y Modiwl
HA12120
Teitl y Modiwl
Cyflwyno Hanes
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Steve Thompson
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
HY12120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Iwan Morus
Dr Yi Li
Dr Arddun Arwyn
Dr Eryn White
Dr Rhun Emlyn
Dr Steve Thompson

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Ymarferiad llyfryddiaethol: 1000 o eiriau 30%
Asesiad Semester Traethawd: 2000 o eiriau 70%
Asesiad Ailsefyll Ymarferiad llyfryddiaethol: 1000 o eiriau 30%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2000 o eiriau 70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol
  2. darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol
  3. cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil
  4. mynd i'r afael a dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol
  5. dangos eu bod wedi mynd i'r afael a deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn gwaith ysgrifenedig (asesedig)
  6. myfyrio'n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa mor berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau

Disgrifiad cryno

Amcan y cwrs hwn yw rhoi i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o'r `sgiliau' pwysicaf, er mor sylfaenol ydynt, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Trwy gyfres o seminarau cyflwynir i'r myfyrwyr amrediad o sgiliau, technegau ac ymarferion fydd yn cynnwys elfennau sylfaenol sydd yn ymwneud ag astudiaethau israddedig yn ogystal ag arferion yr hanesydd. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at y dull hwn sy'r seiliedig ar sgiliau ac yn nodi'r fras y materion hynny sy'r ganolog i waith yr hanesydd.

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Anogir myfyrwyr i ystyried y rhwystrau y gallent ddod ar eu traws a chynllunio ar gyfer y rheini, datblygu cynlluniau realistig o ran cwrdd â thargedau, arolygu a monitro eu cynnydd mewn ffordd ddisgybledig a realistig.
Cydlynu ag erail Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol o ran cyflwyno syniadau mewn seminarau ac hefyd drwy'r asesiadau. Dyma un o'r sgiliau sylfaenol ar gyfer astudio ac ymchwilio hanes felly mae'n elfen bwysig yn y modiwl craidd yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y cyfraniadau ysgrifenedig yn cael eu hasesu.
Datrys Problemau Creadigol .Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gallu digidol Bydd gweithio gyda ffynonellau digidol a dod i arfer â defnyddio nifer o adnoddau digidol yn rhan o'r modiwl.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Wrth baratoi'r asesiadau, bydd angen i fyfyrwyr ddadansoddi deunydd amrywiol, gan bwyso a mesur beth i gynnwys, beth sy'n berthnasol a sut i lunio a chyflwyno dadl sy'n arghoeddi.
Sgiliau Pwnc-benodol Cyflwynir myfyrwyr i sgiliau hanfodol a fydd yn eu cynorthwyo drwy gydol eu cyfnod yn astudio yn yr Adran, gan osod sylfaen o ran ymarfer academaidd, dulliau astudio a ffyrdd o gyflwyno'u gwaith i gydfynd â disgwyliadau'r ddisgyblaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4