Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America
- Cod y Modiwl
- HA24720
- Teitl y Modiwl
- Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Steve Thompson
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Yi Li
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Dadansoddiad o ffynhonnell: 1000 o eiriau | 25% |
| Asesiad Semester | Prosiect: 3000 o eiriau | 75% |
| Asesiad Ailsefyll | Dadansoddiad o ffynhonnell: 1000 o eiriau | 25% |
| Asesiad Ailsefyll | Prosiect: 3000 o eiriau | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos ymwybyddiaeth o hanesyddiaeth y mudiad hawliau sifil a diwylliant Affro-Americanaidd yn ystod y cyfnod wedi’r rhyfel
- Dangos ymwybyddiaeth o’r materion ynglŷn â methodoleg a godir gan y defnydd o ffynonellau clywedol i astudio’r gorffennol
- Astudio a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol, ffynonellau archifol, printiedig, clywedol neu weledol
- Creu a chynnal dadleuon hanesyddol yn llafar ac ysgrifenedig
Disgrifiad cryno
Mae ffynonellau hanesyddol gwreiddiol yn cynnwys pob math o dystiolaeth o’r gorffennol ond, gellid dadlau bod haneswyr wedi troi yn bennaf at ffynonellau ysgrifenedig megis llyfrau, adroddiadau, llawysgrifau, dyddiaduron, papurau newydd, ac yn y blaen. Yn fwy diweddar, yn ystod y degawdau diwethaf, mae haneswyr wedi dechrau defnyddio mathau eraill o ffynonellau gwreiddiol yn eu gwaith, gan gynnwys ffynonellau gweledol, delweddau symudol, cyfweliadau hanes llafar, pensaernïaeth, arteffactau, tirwedd, ac ati, ac mae’r ffynonellau hyn wedi cael eu ‘darllen’ mewn ffordd debyg i ffynonellau ysgrifenedig, traddodiadol. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar fath arall o ffynhonnell wreiddiol nad yw’n cael ei ddefnyddio yn ddigonol gan haneswyr, sef sain.
Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth ffynonellau clywedol a bydd yn defnyddio’r mudiad hawliau sifil yn America o’r 1950au hyd at y 1970au fel achos enghreifftiol. Yn ogystal, bydd y modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi ffynonellau clywedol yn eu cyd-destun ehangach ac yn ystyried cyd-destun cynhyrchu’r ffynhonnell (h.y. sut y crëwyd y ffynhonnell) a chyd-destun derbyniad y ffynhonnell (h.y. sut y deallwyd y ffynhonnell gan wrandawyr). Ymhlith y ffynonellau clywedol a ddefnyddir bydd: cerddoriaeth boblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmnïau masnachol o fewn ffurfiau megis jazz, gospel, r’n’b, soul, funk, disco a rap; caneuon a diwylliant cerddorol y mudiad hawliau sifil; recordiau o gyfarfodydd yr ymgyrch; barddoniaeth a ddarllenwyd gan awduron blaenllaw; a pherfformiadau comedi gan gomediwyr Affro-Americanaidd.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn asesu gwerth sain fel ffynhonnell hanesyddol ond, yn ogystal, bydd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sain mewn cyd-destun ehangach trwy ystyried ffactorau ynglŷn â’r cynhyrchiant a’r defnydd cyfoes o ffynonellau clywedol. At hynny, defnyddir ffynonellau ‘traddodiadol’ i amlygu’r cyd-destun ehangach hefyd.
Cynnwys
1. Rhagarweiniad
2. Hanes clywedol
3. Gwreiddiau Cerddorol: Hen Ganeuon Ysbrydol a Cherddoriaeth Gospel
4. Ymgyrchoedd cynnar yn y Taleithiau Deheuol
5. ‘Rhyddid Nawr!’: Ymgyrchoedd yn y De Eithaf
6. ‘Inner City Blues’: Bywyd Pobl Dduon a Hawliau Sifil yn Ninasoedd y Gogledd
7. ‘Say it Loud, I’m Black and I’m Proud’: Cenedlaetholdeb Du a Seiniau’r Chwyldro
8. ‘I Have a Dream’: Dadansoddi Areithiau Arweinwyr y Mudiad Hawliau Sifil
9. ‘Respect’: Menywod yn y Mudiad ac yn niwylliant Affro-Americanaidd
10. ‘What’s Going On’: Marwolaeth y Freuddwyd
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
| Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
| Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd |
| Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
