Crefydd, Hud a Gwyddoniaeth

Cod y Modiwl
HA28620
Teitl y Modiwl
Crefydd, Hud a Gwyddoniaeth
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Iwan Morus
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
HA38620 neu HY38620
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
HY28620
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Yi Li

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Semester Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ailsefyll: 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Deall ac ystyried datblygiadau diweddar ynglŷn â'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a chred
  2. Gwerthfawrogi agweddau cyffredinol datblygiad gwyddoniaeth ers y cyfnod modern cynnar yng nghyswllt y berthynas a mathau eraill o gred boblogaidd.
  3. Deall cyd-destun diwylliannol gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
  4. Adnabod a defnyddio mathau priodol o dystiolaeth hanesyddol er mwyn deall y berthynas rhwng gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.

Disgrifiad cryno

Rydym fel rheol yn meddwl am wyddoniaeth fel petai ar wahân i systemau cred eraill. Rydym hefyd yn dueddol o feddwl am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd mewn termau o wrthdaro. Bydd y modiwl hwn yn dangos fod y berthynas rhwng gwyddoniaeth ac elfennau eraill o gred yn llawer mwy cymhleth na'r farn boblogaidd. Am y rhan fwyaf o'u hanes roedd gwyddoniaeth ac ystyriaethau crefyddol, er enghraifft, yn annatod. Daw'n amlwg nad oes modd gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol unrhyw system gred heb gymryd eu perthynas â systemau cred eraill i ystyriaeth. Drwy ymchwilio cysylltiadau fel hyn medrwn ddeall llawer mwy ynglŷn â datblygiad gwyddoniaeth a'i rôl yn natblygiad diwylliant gorllewinol modern.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a mathau eraill o gredoau poblogaidd rhwng y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern. Drwy arddangos y berthynas rhwng gwahanol systemau cred bydd y modiwl yn fodd i gyflwyno datblygiadau diweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth.

Cynnwys

Darlithoedd:
1. Cyflwyniad
2. Hud a Natur
3. Dynion Duwiol
4. Duw a'r Ymoleuad
5. Diwinyddiaeth Natur
6. Esbylgiad a Chynnydd
7. Trydan Radical
8. Mesmereiddio Diwylliant
9. Edrych am Ysbrydion
10. Ysbrydeg
11. Tu mewn i'r Séance
12. Darwin, Duw, a Diwygiad
13. Darwin Ddamniol
14. Y Society for Psychical Research
15. Hud Llwyfan
16. Bydoedd Eraill
17. Grymoedd Dirgel
18. Diwedddglo

Seminarau
1. Meddwl Hudol
2. Paratoi Traethodau
3. Pwerau Meddwl a Natur
4. Darwin
5. Chwarae gyda Ysbrydion
6. Edrych yn ôl

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn â datblygiad gwyddoniaeth, crefydd a chred; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5