Traethawd Hir
- Cod y Modiwl
- HAM0160
- Teitl y Modiwl
- Traethawd Hir
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 3
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Paul O'Leary
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
HYM1160
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Yi Li
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd hir: (12,000 i 15,000 o eiriau) | 100% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd hir: (12,000 i 15,000 o eiriau) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos arbenigedd ymchwil ym maes neilltuol eu hastudiaeth;
- Cynhyrchu darn hanesyddol trefnus sy'r dangos sgiliau beirniadaol a dadansoddiadol;
- Gwneud cyfraniad at faes ymchwil hanesyddol;
- Cyflwyno gwaith o safon academaidd proffesiynol o ran cyfeiriadu a chyflwyniad.
Disgrifiad cryno
Rhesymeg academaidd y cynnig:
Y traethawd hir yw'r elfen olaf yn rhaglen MA yr Adran ac y mae'r llenwi'r gofynion ar gyfer Rhan II y radd MA. Nod y traethawd yw i asesu gallu'r myfyryiwr i ddadansoddi corff sylweddol o ddeunydd hanesyddol, ei drefnu, a'r gyflwyno mewn ffordd sy'r cynnal dadl sy'r argyhoeddi ac sy'r gwneud cyfraniad i ysgolheictod hanesyddol. Ni ddisgwylir o reidrwydd i'r myfyriwr ddarganfod canlyniadau newydd, ond yn hytrach i ysgrifennu darn o ymchwil wreiddiol sy'r arddangos y gallu i feddwl yn annibynnol.
Disgryfiad cryno:
Ar gyfer y modiwl hwn, ymchwilir a chyflwynir traethawd hir yr MA, sef darn o waith ymchwil annibynnol o hyd at 15,000 o eiriau, gyda chyfarwyddyd aelod o staff a benodir i oruchwylio'r ymchwil.
Cynnwys:
Cynnwys y modiwl yw paratoi a chyflwyno'r traethawd. Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni hyn yn ystod yr haf, gyda chyfarwyddyd aelod o staff. Bydd y traethawd yn ddarn o waith ymchwil hanesyddol annibynnol 15,000 o eiriau ar bwnc o ddewis y myfyriwr.
Cynnwys
.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir drwy ddangos y gallu i gyflwyno dadl synhwyrol mewn darn o ysgrifennu hanes sydd yn cyrraedd safon academaidd derbyniol, o bosib yn cynnwys theorïau cymhleth sydd angen eu cyfleu’n effeithiol i’r darllenydd. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Drwy ddatblygu ymwybyddiaeth o sgiliau personol, a fydd yn cyfrannu at gyflogadwyedd i’r dyfodol. |
| Datrys Problemau | Datblygir sgiliau o ran lleoli deunyddiau a threfnu canlyniadau ymchwil mewn modd systematig ac effeithiol. Hefyd wrth ddod i adnabod materion ymghlwm â’r prosiect a all fod yn broblematig a darganfod ffyrdd i ddygymod â rhain. |
| Gwaith Tim | Heb fod yn berthnasol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy osod targedau realistig a chynllunio sut i’w cyrraedd; drwy fyfyrio’n feirniadol ar y gwaith; drwy ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth adeiladol; drwy gadw llygad ar gynnydd personol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib. |
| Rhifedd | Pan yn briodol i’r prosiect, drwy gasglu a dadanoddi data ystadegol yn feirniadol. |
| Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau drwy leoli a gwerthuso ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd sy’n berthnasol i bwnc y traethawd, gan wneud defnydd priodol o’r rhain i adeiladu a chyflwyno dadl gyson. |
| Technoleg Gwybodaeth | Drwy wneud defnydd addas o adnoddau i gynorthwyo ymchwil, adnoddau arlein a phecynnau meddalwedd amrywiol, gan ddibynnu ar anghenion y prosiect ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
