Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol
- Cod y Modiwl
- HP33220
- Teitl y Modiwl
- Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Rhun Emlyn
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Cyd-Ofynion
-
HP33120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Yi Li
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Semester | Arholiad agored: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad agored: 2000 o eiriau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos dealltwriaeth ddofn o Wrthryfel Glyndŵr a'i ddylanwad hyd heddiw.
- Asesu cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol am gymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol diweddar.
- Dadansoddi yn feirniadol amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif.
- Defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol i lunio dadleuon yn llafar (heb ei asesu) ac yn ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Wedi deall hynt a helynt y gwrthryfel yn semester un, byddwn yn cymryd cam yn ôl yn semester dau gan ganolbwyntio ar themâu a chwestiynau allweddol sydd yn cael eu trafod gan haneswyr. A oedd Cymru yn drefedigaeth (‘colony’)? Faint o gefnogaeth dderbyniodd y gwrthryfel, a pham? Beth yw arwyddocâd y gwrthryfel i Gymru heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain? Trwy drafod y cwestiynau hyn byddwn yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r gwrthryfel, o hanes canoloesol Cymru’n gyffredinol ac, o bosib, y Gymru yr ydym ni’n byw ynddi heddiw hefyd. Bydd trip hefyd yn rhan hon y modiwl i leoliadau sydd â chysylltiad â’r gwrthryfel.
Nod
1. Cyflwyno hanes a chysyniadau allweddol am Wrthryfel Glyndŵr mewn dyfnder.
2. Hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol amrywiol o’r cyfnod.
3. Annog myfyrwyr i feddwl mewn ffyrdd newydd am natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol diweddar.
Cynnwys
Addysgir y modiwl trwy gyfrwng 10 seminar dwy awr yr un. Bydd pob un yn edrych ar gwestiwn allweddol am y gwrthryfel, megis:
• A oedd Cymru’r Oesoedd Canol diweddar yn drefedigaeth (‘colony’)?
• Faint o gefnogaeth dderbyniodd y gwrthryfel, a pham?
• Beth oedd rôl yr Eglwys yn y gwrthryfel?
• Sut oedd y gwrthryfel yn gwneud defnydd o hanes i gefnogi ei amcanion?
• Beth oedd canlyniadau’r gwrthryfel i Gymru’r bymthegfed ganrif a thu hwnt?
• Beth yw arwyddocâd y gwrthryfel i Gymru heddiw?
Yn lle un o’r seminarau bydd trip i leoliadau sydd â chysylltiad â’r gwrthryfel.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
| Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
| Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu fel bo’n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
| Rhifedd | Ddim yn briodol |
| Sgiliau pwnc penodol | Ddim yn briodol |
| Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio Technoleg Gwybodaeth: Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
History and Welsh History,Aberystwyth University, International Politics Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 621917 : +44 : +44 (0)1970 622021
history-enquiries@aber.ac.uk: history-enquiries@aber.ac.uk
