Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol
- Cod y Modiwl
- MOR2210
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Tamsin Davies
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adfyfyriad: Adfyfyriad 1000 gair ar y gweithdai a ddewisir | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd NEU Gyflwyniad llafar: Cyflwyniad llafar wedi’i ddylunio i ddangos ymwybyddiaeth o’r prif feysydd y mae’r modiwl yn ymdrin â nhw, NEU draethawd 2000 gair ynglŷn â chrynodebau | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Adfyfyriad: Adfyfyriad 1000 gair ar y gweithdai a ddewisir | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd NEU Gyflwyniad llafar: Cyflwyniad llafar wedi’i ddylunio i ddangos ymwybyddiaeth o’r prif feysydd y mae’r modiwl yn ymdrin â nhw, NEU draethawd 2000 gair ynglŷn â chrynodebau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Bydd myfyrwyr yn medru arddangos rhychwant o sgiliau llyfryddiaethol a chyfrifiadurol.
- Byddant yn medru arddangos sgiliau mewn rhychwant o strategaethau lledaenu ymchwil, gan gynnwys ysgrifennu, cyflwyno ar lafar, a defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau
- Gweithio fel rhan o dîm
- Byddant wedi ystyried rhai o'r sgiliau allweddol sydd angen eu meithrin wrth ddysgu mewn addysg uwch.
- Byddant yn medru arddangos eu bod yn gwerthfawrogi'r ystyriaethau sydd ynghlwm â rheoli prosiect ymchwil tymor hir.
Disgrifiad cryno
Darperir cyflwyniad i sgiliau ymchwil ac i agweddau ar ddatblygiad personol er mwyn cymhwyso myfyrwyr at waith ymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae'r modiwl yn rhoi arweiniad ynghylch datblygu nifer o sgiliau ymarferol, personol ac academaidd yn ogystal a sut i gywain gwybodaeth arbenigol a sut i ysgrifennu yn academaidd yn y Gymraeg. Mae’r gyfres o weithdai yn cynnig sesiynau ar drin a thrafod ffynonellau a thechnoleg gwybodaeth, rheoli ymchwil, sgiliau cyfathrebu, cyflogadwyedd a gyrfaoedd.
Cynnwys
Dysgir y modiwl drwy gyfres o weithdai sy'n ymdrin â sgiliau ymchwil a datblygiad personol, gan gynnwys:
* Rheoli ymchwil- rheoli amser a phwysau gwaith, rheoli'r goruchwyliwr, rheoli cyfeirnodau, rheoli termau, hawlfraint ac eiddo deallusol
* Sgiliau cyfathrebu - sgiliau ysgrifennu, cynhadleddau, cyflwyniadau llafar
* Sgiliau a dulliau ymchwil - archifau, adolygiadau llenyddol, dulliau yn y gwyddorau/celfyddydau a'r dyniaethau, ymchwil ansoddol
* Ar ôl eich PhD - rhwydweithio, cynllunio gyrfa, adnabod sgiliau, chwilio am swydd
Rhaid mynd i o leiaf 2 sesiwn breswyl a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol neu sesiynau cyfatebol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Ymdrinnir â gweithio ag eraill mewn sawl gweithdy. Dysgir y modiwl drwy weithdai sy’n defnyddio gwaith grŵp yn aml. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Datblygir:Gwybodaeth am brosesau cyfathrebu academaidd; Ymwybyddiaeth o strategaethau cyflwyno llafar; Dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ysgrifennu. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datblygir y gallu i feddwl yn feirniadol am broblemau ymchwil a chanfod y dulliau priodol i’w datrys. |
| Gallu digidol | Datblygir gallu wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft, dod o hyd i.gatalogau llyfrgell, cyfnodolion electronig, a thraethodau ymchwil ar-lein ac arfau cyfrifiadurol ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg, |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Datblygir:Ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o ffynonellau sy’n addas i feysydd ymchwil penodol; Gwybodaeth ar sut i gael gafael ar ddeunyddiau cyfreithiol perthnasol sy’n ymwneud â materion megis cyfrinachedd, diogelu data a’r rheolau sy’n ymwneud â defnyddio eiddo deallusol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
