Moeseg, Llenladrata ac Ymarfer Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
- Cod y Modiwl
- MOR9005
- Teitl y Modiwl
- Moeseg, Llenladrata ac Ymarfer Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester S
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Tamsin Davies
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Cathryn Charnell-White
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth: 4 Awr Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth 4 Awr | 20% |
| Asesiad Semester | Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif: 1 Awr Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif 1 Awr | 10% |
| Asesiad Semester | Cynllun Data Amlinellol: Amlinelliad o'r cynllun data 400 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eich prosiect ymchwil: Cwblhau cynllun rheoli data llawn ar gyfer y prosiect ymchwil 800 o eiriau | 15% |
| Asesiad Semester | Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol: Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol 500 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein: Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein 500 o eiriau | 35% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth: 4 Awr Cyfranogi mewn ymarferion yn y dosbarth 4 Awr | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein: Cwblhau'r broses asesu moesegol ar-lein 500 o eiriau | 35% |
| Asesiad Ailsefyll | Cynllun Data Amlinellol: Amlinelliad o'r cynllun data 400 o eiriau | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Cwblhau cynllun rheoli data ar gyfer eich prosiect ymchwil: Cwblhau cynllun rheoli data llawn ar gyfer y prosiect ymchwil 800 o eiriau | 15% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif: 1 Awr Ymwybyddiaeth llên-ladrata - Uwchlwytho tystysgrif 1 Awr | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol: Ymarfer Meddwl yn Adfyfyriol 500 o eiriau | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Deall ac asesu llên-ladrata yn eu gwaith ysgrifenedig (a gwaith eraill), a'i werthuso yn feirniadol.
- Deall ac asesu materion moesegol eu prosiect ymchwil eu hunan, a'u gwerthuso yn feirniadol.
- Deall hawlfraint, gwarchod data, ac anghenion storio data mewn perthynas a'u hymchwil.
Disgrifiad cryno
Mae'n angenrheidiol fod gan fyfyrwyr PhD/MPhil ddealltwriaeth fanwl o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint a.y.b. ar ddechrau eu cwrs. Bydd y modiwl hwn yn darparu arolwg/cyflwyniad pwrpasol. Bydd y modiwl mewn ffurf gweithdy a fydd yn ffocysu ar Foeseg Ymchwil a Materion Ysgrifennu. Bydd hyn yn cynnwys, moeseg, materion llenladrata, cyfrinachedd, hawlfraint, gwarchod data, rhyddid gwybodaeth yn y broses ymchwil ac ysgrifennu, ac anghenion storio data. Bydd proses foesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnwys.
Nod
Darparu dealltwriaeth o faterion moesegol, llenladrata, hawlfraint , a.y.b. i fyfyrwyr PhD/MPhil. Amlygu system moesegol ar-lein Prifysgol Aberystwyth i'r myfyrwyr.
Cynnwys
Cyflwynir y modiwl fel gweithdy un diwrnod yn trafod yr agweddau perthnasol. Mae'r gweithdy yn cynnwys ymarferion yn y dosbarth a fydd angen eu cwblhau. Dilynir hyn gan y myfyrwyr yn cyflwyno eu prosiectau ymchwil ar-lein ar gyfer cymeradwyaeth moesegol, gan fod angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y person priodol yn eu hathrofa (e.e. Cyfarwyddwr Ymchwil). Yn ogystal, bydd angen cwblhau cynllun rheoli data (gan ddefnyddio adnoddau ar-lein).
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Rhwydweithio yn ystod y gweithdy |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymhob agwedd. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Yn ystod y gweithdy |
| Sgiliau pwnc penodol | Cymeradwyo moesegol a chynllun rheoli data ar gyfer eu prosiect eu hunan. |
| Sgiliau ymchwil | Yn ystod y gweithdy ac ar ol y gweithdy. |
| Technoleg Gwybodaeth | Proses cymeradwyo moesegol ar-lein |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
