Hydrodynameg I

Cod y Modiwl
MT25820
Teitl y Modiwl
Hydrodynameg I
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Simon Cox
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MA11210 neu MT11210
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Simon Cox

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Gwaith cwrs: 40 Awr Datrysiadau i wyth taflen enghreifftiol a osodir bob yn ail wythnos. 40 Awr 40%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr Arholiad 2 Awr 60%
Asesiad Ailsefyll Gwaith cwrs: Datrysiadau i daflen problemau atodol. 40%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr Arholiad 2 Awr 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Defnyddio fectorau, meysydd fector, calcwlws fector a systemau cyfesurynnau gwahanol er mwyn dadansoddi problemau mewn gofod 3-dimensiwn.
  2. Enrhifo integrynnau llinell, arwyneb a cyfaint. Cofio a chymhwyso theoremau Stokes, Green a dargyfeiriad.
  3. Egluro a chyfrifo cyfraddau newid darfudol.
  4. Cyfrifo'r forteisedd o lif llifydd delfrydol.
  5. Penderfynu os yw llif yn addas ar gyfer llifydd anghywasg.
  6. Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli llif ar gyfer llifydd delfrydol mewn sefyllfaoedd penodol.
  7. Darganfod y ffwythiant llif a'r potensial cyflymder sy'n disgrifio maes fector penodol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno offer mewn calcwlws fector gaiff eu cymhwyso i ddatblygu'r cysyniadau sylfaenol mewn Hydrodynameg Glasurol, gan gynnig fframwaith fodern i Fecaneg Llifydd.

Nod

I gynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Ddeinameg Llifydd.
I gyflwyno offer mewn dadansoddiad fector a'r cysyniadau sylfaenol o Hydrodynameg Clasurol.
I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant llifydd gynorthwyo gyda'n dealltwriaeth o ffenomenâu penodol o'r byd go iawn gan gynnwys rhai mewn cymwysiadau fel meteoroleg ac aerodynameg.

Cynnwys

1. Meysydd fector a sgalar 2D a 3D mewn cyfesurynnau Cartesaidd a polar.
2. Calcwlws Fector: graddiant, dargyfeiriad a cwrl o feysydd fector.
3. Integrynnau llinell ac arwyneb, y theorem dargyfeiriad.
4. Cyflymder, gwasgedd, gludedd, dwysedd a'r rhif Reynolds.
5. Systemau cyfeirnodi Euleraidd a Lagrangeaidd; cyflymiad a'r deilliad darfudol.
6. Cinemateg mudiant llifydd: Llinlwybrau, lliliniau, forteisedd.
7. Hafaliadau rheoli sylfaenol mudiant llifydd: Anghywasgedd a hafaliadau Euler.
8. Hafaliadau Bernoulli a chymwysiadau.
9. Strwythurau hydrodynameg syml: Tarddiadau, suddfannau, dwbledi. Llif potensial.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i weithio mewn grwpiau i ddatrys problemau.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno atebion ysgrifenedig clir i ymarferion gosod.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos creadigrwydd wrth ddarganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau
Gallu digidol Anogir myfyrwyr i ddefnyddio'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol er mwyn gwella eu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl a'r cymhwysiadau posib.
Myfyrdod Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu dull eu hunain o ddysgu ac i ddefnyddio'r adborth maent yn ei dderbyn ar eu gwaith er mwyn cefnogi eu dysgu.
Sgiliau Pwnc-benodol Ehangir datguddiad myfyrwyr i bynciau mewn mathemateg, a maes cymhwysiad nad ydynt wedi dod ar ei draws o'r blaen.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5