Hafaliadau Differol Rhannol

Cod y Modiwl
MT34110
Teitl y Modiwl
Hafaliadau Differol Rhannol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Adam Vellender
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
MA11210 neu MT11210
Rhagofynion
MA20110 neu MT20110
Rhagofynion
MA21410 neu MT21410
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
MA34110
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Gwion Evans

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Arholiad Semester 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) 100%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr (Arholiad Ysgrifenedig) 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Datrys hafaliadau differol rhannol llinol syml;
  2. egluro a dangos enghreifftiau addas lle mae hafaliadau o'r fath yn ymddangos mewn ffiseg a diwydiant;
  3. dehongli ystyr y datrysiadau mathemategol i'r hafaliadau differol rhannol o fewn y cyd-destun priodol.

Disgrifiad cryno

Mae'n bosib gosod llawer o broblemau sy'n codi ym meysydd y gwyddorau ffisegol, peirianneg a thechnoleg, ar ffurf hafaliadau differol rhannol. Er mwyn datrys problemau o'r fath, mae'n rhaid i rywun fod yn ymwybodol o'r mathau gwahanol o hafaliadau differol rhannol sy'n bodoli, ac o'r gwahanol amodau ffin sy'n gysylltiedig a phob math. Mae'r ffactorau yma'n penderfynu pa ddull datrys ddylai gael ei ddefnyddio.

Nod

Dysgu'r myfyriwr i adnabod math hafaliad differol rhannol, a sut i ddewis a gweithredu dull ar gyfer ei datrys.

Cynnwys

1. Sylfeini: Diffiniadau ac enghreifftiau, hafaliadau differol rhannol syml.
2. Hafaliadau trefn un: y dull nodweddion.
3. Amodau ffin: Dirichlet, Neumann, Robin, amodau ystum da ac amodau ystum gwael.
4. Hafaliadau trefn dau: dosbarthiad, lleihad i ffurfiau canonaidd.
5. Yr hafaliad ton: datrysiad cyffredin, problem Cauchy, egwyddor adlewyrchiad, egwyddor Duhamel, llinyn ffinedig, egni ac unigrywiaeth.
6. Yr hafaliad gwres: egwyddor uchafswm, unigrywiaeth, gwahanu newidynnau, priodweddau datrysiadau, y datrysiad sylfaenol.
7. Ffrwythiannau Green.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu ffordd eu hunain o reoli amser ac i ddefnyddio'r adborth ar waith sy'n cael ei farcio er mwyn cefnogi eu dysgu.
Cydlynu ag erail Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno datrysiadau i ymarferion gosodedig sydd wedi'u hysgrifennu yn glir.
Datrys Problemau Creadigol Bydd yr aseiniadau'n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddangos eu creadigrwydd er mwyn darganfod datrysiadau a datblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gallu digidol Bydd defnydd o'r rhyngrwyd, Blackboard, a phecynnau mathemategol yn cael ei argymell er mwyn hybu dealltwriaeth o gynnwys y modiwl ac o'r enghreifftiau o gymwysiadau.
Sgiliau pwnc penodol Cydgysylltu ag Eraill: Anogir myfyrwyr i weithio mewn grwpiau er mwyn datrys problemau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6