Prosiect Mewn Mathemateg neu Ystadegaeth
- Cod y Modiwl
- MT39910
- Teitl y Modiwl
- Prosiect Mewn Mathemateg neu Ystadegaeth
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Tudur Davies
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
MA21410 neu MT21410
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig. | 100% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. y gallu i gasglu gwybodaeth yn annibynnol, gan ddefnyddio'r llyfrgell, rhwydwaith cyfrifiadura ac adnoddau'r rhyngrwyd; 2. y gallu i ddechrau ymchwiliadau bychain, llunio problemau addas a'u datrys; 3. y gallu i gyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith a wnaed wedi ei baratoi gan ddefnyddio prosesydd geiriau.
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyriwr i ddilyn ymchwiliadau mathemategol neu ystadegol gan weithio mor annibynnol a phosibl o gyfarwyddyd uniongyrchol, ac i baratoi adroddiad cydlynol o'r ymchwiliadau. Gall y myfyriwr ddewis y maes mathemategol a ymchwilir. Dewisir y testun neilltuol mewn ymgynghoriad a goruchwylydd, a bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r goruchwylydd am awr yr wythnos ar y mwyaf. Prif bwrpas y tiwtorialau yma yw i sicrhau nad yw datblygiad y prosiect yn cael ei amharu gan anawsterau neu gamddealltwriaeth ac i wneud awgrymiadau fel bo'n briodol.
Nid yw'r modiwl ar gael i fyfyrwyr MMath, gan y bydd yn rhaid iddynt wneud gwaith prosiect sylweddol yn eu pedwaredd blwyddyn.
Dylai myfyrwyr sy'n bwriadau dilyn y modiwl ymgynghori â chyd-gysylltydd y modiwl cyn cofrestru er mwyn penderfynu a fedrir trefnu astudiaeth a goruchwylydd addas.
Nod
Darparu cyfle ar gyfer astudiaeth annibynnol o destun mewn Mathemateg neu Ystadegaeth nad sy'n cael ei gynnwys, neu ei gynnwys yn y manylder angenrheidiol, mewn modiwlau eraill.
Cynnwys
Caiff y testun a'r deunydd dysgu cysylltiedig manwl eu trefnu mewn ymgynghoriad gyda'r goruchwylydd.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Mathematics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
maths@aber.ac.uk: maths@aber.ac.uk
