Y Diwydiant Amaethyddol - Sgiliau Cynllun-Benodol

Cod y Modiwl
RG10510
Teitl y Modiwl
Y Diwydiant Amaethyddol - Sgiliau Cynllun-Benodol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Mrs Nia Lloyd
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
RD10510 neu RD10510 neu RD10510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Assesiad

Manylion Assesiad

Hyd Assesiad

Cyfran

Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl. 100%
Asesiad Semester Taith astudio/Seminar a phoster. Grwp yn seiliedig ar ymweliad 50%
Asesiad Semester Taith astudio/Adroddiad yn seiliedig ar ymweliad. 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. Amlinellu nodau ac amcanion systemau ffermio ac adnabod y rheoliadau ynglyn a ffermio yn y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
  2. 2. Adnabod y prif egwyddorion sy'n rheoli systemau cnydio a sut i'w haddasu i gynllunio a rheoli cylchdroi cnydau.
  3. 3. Adnabod y prif ffactorau sy'n dylanwadu ar systemau da byw ac asesu'r effaith ar reoli da byw a'u perfformiad.
  4. 4. Trafod rol y farchnad a ffactorau eraill sy'n dylanwadau ar gynhyrchiant.
  5. 5. Trafod cyfraniad ffermio i ansawdd bwyd, ac amcanion polisi amgylcheddol a chymdeithasol.
  6. 6. Chwilio a chyflwyno gwybodaeth o ystod o ffynonellau.
  7. 7. Meithrin sgiliau tim ymarferol gan gynnwys gweinyddiaeth, gosod dyddiadau cau a dogfennau.
  8. 8. Bod yn gyfrifol am yr hyn y maent yn ei ddysgu a'u datblygiad proffesiynol eu hunain.

Disgrifiad cryno

Datblygir y modiwl yn barhad o fodiwl Semester 1 Sgiliau Astudio a Chyfathrebu ac mae'n cynnig cyfle i fyfyrwyr roi'r sgiliau cyffredinol a ddysgwyd ar waith mewn sefyllfa ymarferol.

Mae'r modiwl yn cynnig cyflwyniad i amcanion, egwyddorion, arferion a pherfformiad systemau ffermio a'r ffactorau naturiol, economaidd a chymdeithasol sy'n llunio amaethyddiaeth gyfoes.

Cynnwys

Cyflwynir y modiwl drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thaith astudio/cyfres o ymweliadau a fydd yn cynnwys ymweld ffermydd a busnesau amaeth a bwyd mewn ardal o'r DU a thrafodir yr agweddau canlynol:-

Cyflwyniad i strwythur y diwydiant amaeth yn y DU / UE

Systemau ffermio - elfennau a dosbarthiad

Dylanwad polisi

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y ddau ymweliad (gan gynnwys seminarau gyda'r nos yn dilyn yr ymweliadau a'r seminar a asesir yn datblygu sgiliau cyfathrebu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwneir cysylltiadau â diwydiant yn ystod y daith astudio a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y gwaith cwrs.
Datrys Problemau Bydd hyn yn rhan o'r gwaith cwrs a osodir.
Gwaith Tim Mae'r daith astudio a'r gwaith cwrs cysylltiedig yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer rhyngweithio a thrafod mewn grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd myfyrwyr yn cydweithio ar brosiectau a fydd yn gofyn iddynt adnabod eu cryfderau a'u gwendidau personol a chwilio am y cymorth hanfodol i'w helpu i wella eu gwaith eu hunain a gwaith y grwp.
Sgiliau pwnc penodol Mae'r modiwl yn ymwneud a rhyngweithio rhwng elfennau systemau amaethyddol, rhwng lefelau hierarchaidd systemau amaethyddol, rhwng systemau amaethyddol a systemau defnyddio'r tir eraill, a rhwng systemau amaethyddol a'u hamgylchfyd naturiol a chymdeithasol. Ei nod yn benodol yw annog integreiddio gwybodaeth ymhlith y disgyblaethau hynny sy'n sail i amaethyddiaeth.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymchwil cyn ac yn ystod y daith astudio yn ogystal a chwblhau'r gwaith cwrs
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyflwyno'r gwaith cwrs yn datblygu ymhellach y sgiliau TG a gyflwynwyd yn semester 1.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4