Theatr a Chyd-Destun 2
- Cod y Modiwl
- TC11420
- Teitl y Modiwl
- Theatr a Chyd-Destun 2
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Roger Owen
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
TP11320
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Seminar Unigol: Cyflwyniad byw ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 10 Munud | 40% |
| Asesiad Semester | Traethawd: Traethawd ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 2000 o eiriau | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Seminar Unigol: Cyflwyniad byw ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 10 Munud | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: Traethawd ar bwnc o ddewisir o blith rhestr o opsiynau 2000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos dealltwriaeth briodol o fframweithiau a methodolegau damcaniaethol allweddol sy'n berthnasol i ddadansoddi arferion theatr a pherfformio cyfoes.
- Disgrifio, dehongli a gwerthuso amrywiaeth o destunau, arferion a ffurfiau theatr a pherfformio.
- Defnyddio strategaethau ymchwil personol priodol wrth archwilio theatr a pherfformio ac i wireddu hyn drwy gyflwyniad academaidd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i’r prif faterion artistig a dadansoddol yn theatr a pherfformio, yn yr 20fed ganrif ac yn y byd cyfoes. Trwy ddarlleniadau allweddol a dangosiadau fideo, mae'r modiwl yn cyflwyno cysyniadau dadansoddol allweddol i fyfyrwyr, gan amlygu agweddau corfforol/gweledol ar theatr a pherfformio cyfoes, a'r rhyngweithio rhwng perfformwyr a chynulleidfa fyw. Byddwn hefyd yn trafod ymddangosiad safleoedd newydd ar gyfer perfformiad, datblygiad arferion perfformio cynyddol ryngddisgyblaethol, a dylanwad diwylliant poblogaidd a thechnoleg y cyfryngau newydd ar ffurfiau cyfoes. Bydd myfyrwyr yn amgyffred amrywiaeth y gwaith a gynhyrchir yn y maes hwn ynghyd â geirfa feirniadol i fynd i'r afael â'r gwaith hwn, a hynny er mwyn cymhwyso'r sgiliau hyn wrth ddadansoddi perfformiad byw.
Nod
Nodau'r modiwl hwn yw:
* Cyflwyno cysyniadau allweddol, ymarferwyr blaenllaw a ffurfiau canolog o’r 20fed ganrif ynghyd ag ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
* Datblygu diffiniadau o theatr a pherfformio fel ymarfer esthetig a digwyddiad byw.
*Darparu cyflwyniad i theori ac estheteg theatr.
* Cyflwyno dulliau methodolegol o ddadansoddi perfformiad byw a’u cymhwysiad.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnig cyfres o ddarlithoedd ar brif ffurfiau, genres, hanesion a damcaniaethau theatr a pherfformio. Mae'r darlithoedd yn cyflwyno unedau pynciol fesul pythefnos lle bydd y ddarlith gyntaf yn sefydlu cyd-destunau hanesyddol penodol, a’r ail ddarlith yn archwilio'r syniadau canolog a gyflwynwyd yn flaenorol trwy gyfrwng enghraifft gyfoes benodol. Ochr-yn-ochr â'r darlithoedd bydd seminar dwy awr wythnosol dan arweiniad tiwtor, a fydd yn helpu i ddyfnhau ymgysylltiad myfyrwyr â'r eirfa feirniadol a gyflwynir yn y darlithoedd, ac yn rhoi ffyrdd i fyfyrwyr gymhwyso'r eirfa hon i ddadansoddiad o berfformiad byw. Bydd amser sylweddol yn cael ei dreulio ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd priodol.
Cynnwys enghreifftiol y darlithoedd
Wythnosau 1 a 2: Naturiolaeth – Tair Chwaer
Wooster Group – Addasiadau cyfoes o destunau naturiolaidd – Brace Up!
Wythnosau 3 a 4: Theatr Epig ac Ôl-Ddramataidd.
Astudiaeth Achos: Forced Entertainment
Wythnosau 5 a 6: Y Theatr Greulon.
Astudiaethau achos: Brith Gof / Marina Abramovic.
Wythnosau 7 ac 8: Senograffi Theatr a Pherfformio.
Astudiaethau achos: Appia, Craig a Robert Lepage.
Wythnosau 9 a 10: Arbrofion wrth Gyfryngu: Perfformio, ‘Liveness’ ac Amlgyfryngau.
Ecoleg presenoldeb: Astudiaeth achos: Lone Twin.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Ymdrinnir â chreu gwaith grŵp effeithiol wrth drafod syniadau a barn yn y seminarau. Mae trafodaethau seminarau'n mynnu bod y sgiliau angenrheidiol yn cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau cydweithredol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Mae'r gallu i gyfleu syniadau'n effeithiol yn cael ei ddatblygu yn y seminarau a'i asesu'n uniongyrchol drwy Asesiad 1 a 2. |
| Datrys Problemau Creadigol | Mae datrys problemau dadansoddol, adnabod canlyniadau ac adnabod strategaethau a gweithdrefnau priodol yn cael eu hannog a'u hasesu drwy gydol y modiwl |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Gweler Datganiad Meincnod Pwnc Dawns, Drama a Pherfformiad QAA (Fersiwn 2007). Mae'r sgiliau pwnc penodol canlynol yn cael eu datblygu a'u hasesu'n rhannol: Dealltwriaeth o: a. hanesion ac esboniadau damcaniaethol o ffurfiau a thraddodiadau theatr, senograffeg a pherfformiad; (b) cyd-destunau hanesyddol a chyfoes cynhyrchu, cylchrediad a derbyniad theatr; (c) ymarferwyr ac arferion canolog, a/neu ddamcaniaethwyr, a all gynnwys awduron, actorion, cyfansoddwyr, beirniaid, dawnswyr, cyfarwyddwyr, c |
| Synnwyr byd go iawn | Mae sgiliau trosglwyddadwy (rheoli llwyth gwaith personol a chwrdd â therfynau amser, dylunio a gwireddu prosiect ymchwil) yn cael eu datblygu trwy gwblhau tasgau asesu. Nid yw ymwybyddiaeth gyrfa ynddo'i hun yn elfen wedi'i hasesu, fodd bynnag. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
