Y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth a Grym

Cod y Modiwl
TC22620
Teitl y Modiwl
Y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth a Grym
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Jamie Medhurst
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FM22620
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd 1: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Semester Traethawd 2: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Traethawd 2: 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth o, ac ymgysylltiad â, rhai o'r dulliau damcaniaethol allweddol o gyfathrebu gwleidyddol;
  2. Dangos dealltwriaeth glir o hanes y berthynas rhwng y cyfryngau a'r byd gwleidyddol;
  3. Ysgrifennu traethawd sydd wedi'i lywio gan, ac wedi'i seilio ar, rai o'r prif weithiau ysgolheigaidd yn y maes;
  4. Cymhwyso cysyniadau damcaniaethol i enghreifftiau astudiaethau achos o gyfathrebu gwleidyddol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng gwleidyddiaeth a'r cyfryngau, yn bennaf yn y DU, ond gyda chyfeiriad at genhedloedd eraill a thueddiadau byd-eang. Mae'n ystyried nifer o ddulliau damcaniaethol o feddwl am gyfathrebu gwleidyddol ac yn ystyried y prosesau cyfathrebu cyfryngol sy'n digwydd rhwng yr 'actorion' gwleidyddol a dinasyddion. Mae hefyd yn ystyried y rôl a chwaraeir gan y cyfryngau mewn rhyfel ac mewn digwyddiadau gwleidyddol penodol (a astudir yn fanwl fel astudiaethau achos) cyn cloi gydag ystyriaeth o ble mae pŵer gwirioneddol yn gorwedd.

Cynnwys

Bydd sesiynau addysgu yn ymdrin â'r canlynol:

Cyflwyniad i'r modiwl: gwleidyddiaeth a'r cyfryngau
Y Cyfryngau, Grym, a'r Gyhoeddfa
Propaganda ar ffilm ac yn y cyfryngau I a II
Y cyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth
Llywodraethau a rheoli newyddion
Perchnogaeth a rheolaeth y cyfryngau
Etholiadau a refferenda
Y cyfryngau, gwleidyddiaeth a phŵer yng Nghymru
Crynodeb: Ble mae pŵer go iawn?

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd gofyn i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain drwy'r adborth ffurfiannol.
Datrys Problemau Bydd hyn yn cael ei ddatblygu o fewn trafodaethau seminar a bydd yn cael ei asesu drwy'r traethodau
Gwaith Tim Nid oes unrhyw waith grŵp yn gysylltiedig â'r modiwl hwn ac ni ddatblygir y sgil hon y tu hwnt i gymryd rhan mewn trafodaethau seminar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Wedi'i ddatblygu trwy ymgysylltiad beirniadol â'r prosesau gwleidyddol cyfryngol sy'n cael eu hastudio.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu ac yn asesu sgiliau sy'n gysylltiedig â chyfathrebu gwleidyddol a bydd yn gwella sgiliau beirniadol myfyrwyr mewn perthynas â'r ffordd y mae 'actorion' gwleidyddol a'r cyfryngau'n rhyngweithio ar raddfa leol a byd-eang.
Sgiliau ymchwil Wedi'i ddatblygu trwy ddarllen ac mewn trafodaethau seminar ac wedi'i asesu yn yr aseiniadau ysgrifenedig
Technoleg Gwybodaeth Bydd hyn yn cael ei ddatblygu trwy ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig a ddefnyddir at ddibenion ymchwil mewn perthynas â'r aseiniad ysgrifenedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5