Stiwdio Deledu Greadigol

Cod y Modiwl
TC25420
Teitl y Modiwl
Stiwdio Deledu Greadigol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Mrs Heledd Wyn Hardy
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FM11420 neu FM10220 neu FM11520
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FM25420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Arholiad grŵp a aseiniadau perthnasol: 50%
Asesiad Semester Dyddlyfr: 50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Creadigol: Yn cynnwys 'showreel' a dogfennaeth gefnogol 50%
Asesiad Ailsefyll Dyddlyfr: 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth o, a gallu i greu, amrywiaeth eang o ffurfiau teledu.
  2. Adnabod a chyfleu canlyniadau arfaethedig ar gyfer cynhyrchiad teledu. Bydd y canlyniadau hyn yn canolbwyntio ar: adrodd straeon, arddulliau gweledol/golygyddol a thechnegau cynhyrchu priodol.
  3. Arddangos cymhwysedd technegol a logistaidd ar draws cynhyrchu aml-gamera.
  4. Gwerthuso ac asesu eu gwaith cynhyrchu eu hunain, a gwaith cynhyrchu eraill, gan ddangos y gallu i gynnig a chymryd beirniadaeth adeiladol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl wedi'i gynllunio i gyflwyno myfyrwyr i ystod eang o ffurfiau ffuglen fel drama deledu, fformatau rhaglenni cylchgrawn, fideos cerddoriaeth a sebonau. Fel y cyfryw, bydd yn creu ymdeimlad o amrywiaeth eang iawn o bosibiliadau dramatig a gweledol y cyfrwng teledu; y broses greadigol, cysyniadol a thechnegol sy'n sail i hyn; yn ogystal ag ehangu dealltwriaeth o ffurfiau cydgyfeiriol.

Nod

Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth gref i fyfyrwyr o broblemau creadigol a phosibiliadau cynhyrchu teledu yn ogystal â gwybodaeth am y teledu aml-gamera.

Nod y modiwl yw dyfnhau sgiliau crefft gwaith camera ac arferion golygu yn ogystal â datblygu rolau a chyfrifoldebau aelodau’r criw er mwyn gweithio’n effeithiol a chydweithredol fel tîm cynhyrchu.

Cynnwys

Cyflwyno'r cwrs:

1. Cyflwyniad i gynhyrchu aml-gamera.
2. Sgiliau cyfweliad stiwdio
3. Technegau cyfweld aml-gamera
4. Technegau stori
5. Fformat rhaglenni cylchgrawn
6. Gweithio gyda cherddoriaeth
7. Fformat cylchgrawn uwch
8. Drama deledu
9. Drama - ymarfer stiwdio; egwyddorion allweddol
10. Cynhyrchiad drama gan ddefnyddio elfennau aml-gamera

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y myfyriwr yn datblygu sgiliau ysgrifennu wrth greu eu sgriptiau. Gan eu bod yn seiliedig ar waith tîm, bydd y gweithdai yn cynnwys sgiliau cyfathrebu lefel uchel. Bydd trafodaeth hefyd ar waith wedi'i sgrinio a phynciau cysylltiedig, ynghyd â beirniadaeth o sgriptiau'r myfyrwyr eu hunain. Anogir myfyrwyr i drafod yn fwyfwy manwl gywir a soffistigedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn rolau a ddiffinnir yn broffesiynol mewn gweithdai ac ymarferion a asesir, ac felly'n cael ymdeimlad o gynhyrchu cyfryngau proffesiynol.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i fynd i'r afael ag ystod o broblemau cyfarwyddo a sinematograffig yn ystod y gweithdai wythnosol. Yn fwy penodol, bydd myfyrwyr yn ystyried technegau cyfarwyddo priodol a thechnegau golygu adrodd straeon. Ymhellach, wrth gynhyrchu’r gwaith, bydd y myfyrwyr yn cael profiad o ddatrys y problemau logistaidd, cyllidebol a thechnegol penodol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu.
Gwaith Tim Mae'r gweithdy'n cynnwys gwaith grŵp wrth saethu golygfeydd byr. Bydd cynhyrchu'r fideos byr yn golygu cydweithio.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y cwrs yn gofyn am feirniadaeth o bob rhan o'r golygfeydd a gynhyrchir yn y gweithdai, o'r cyfarwyddo i'r golygu. Ymhellach, mae'r cwrs yn gofyn bod myfyrwyr yn trafod y gwaith a gynhyrchwyd o'r asesiad ar y cam sgript. Anogir y myfyrwyr i addasu eu gwaith mewn ymateb i'r asesiad hwn. Bydd y traethawd beirniadol yn gwerthuso'r darn fideo
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau cyn-gynhyrchu trwy greu a chynllunio nifer o gynyrchiadau. Bydd sgiliau cynhyrchu sengl ac aml-gamera yn datblygu i lefel newydd. Datblygir sgiliau golygu trwy olygu'r darn.
Sgiliau ymchwil Bydd ymchwil i ystod eang o gynyrchiadau teledu, gweithiau beirniadol-damcaniaethol, a deunyddiau hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn hanfodol wrth weithio ar y prosiect fideo. Bydd saethu a golygu'r fideos yn cynnwys ymchwil i'r systemau technegol a ddefnyddir wrth eu creu.
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyfnodolion, sgriptiau a chynigion yn cael eu llunio ar brosesydd geiriau. Byddai deunydd fideo digidol yn cael ei olygu ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Avid Media Composer neu Final Cut Pro. Mae'n bosibl iawn y bydd cymwysiadau eraill yn ymwneud â thechnolegau cyfrifiadurol, yn dibynnu ar broblem ymchwil hunangyfeiriedig benodol y myfyriwr.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5