Cynhyrchu Ffilm Ddogfen

Cod y Modiwl
TC33740
Teitl y Modiwl
Cynhyrchu Ffilm Ddogfen
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Elin Morse
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
FM22820 neu FM26520 neu TC25620 neu FM20920 neu TC25420
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Portffolio Datblygu/Development Portfolio: 2000 o eiriau 25%
Asesiad Semester Portffolio Cynhyrchu / Creative Portfolio: 3000 o eiriau 25%
Asesiad Semester Ffilm Olaf / Final Film: 15 Munud 50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Datblygu/Development Portfolio: 2000 o eiriau 25%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Cynhyrchu / Creative Portfolio: 3000 o eiriau 25%
Asesiad Ailsefyll Ffilm Olaf / Final Film: 15 Munud 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r prosesau cynhyrchu allweddol wrth wneud ffilmiau dogfen;
  2. Defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymchwil er mwyn creu, datblygu a chyflwyno syniad am ffilm;
  3. Cymhwysedd technegol amlwg, barn esthetig a gwerthfawrogiad o gyd-ddibyniaeth rolau cynhyrchu allweddol;
  4. Cydnabod dimensiynau moesegol ymarfer cyfryngau proffesiynol;
  5. Myfyrio'n feirniadol ar y broses greadigol a chynhyrchu gwaith sy'n cael ei lywio gan, ac wedi'i gyd-destunoli o fewn, materion a dadleuon damcaniaethol perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr parhau i weithio gydag offer ffilmio a gyflwynwyd yn Rhan 1 a’i annog i weithio yn fwy annibynnol wrth greu ffilm ddogfen fel rhan o grŵp neu fel unigolyn. Gall y modiwl fod o fudd i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ffilmiau dogfen ac sydd eisoes wedi astudio modiwlau yn y maes hwnnw.
Mae'r modiwl wedi'i drefnu o amgylch cyfres o dasgau wrth anelu at greu'r brif ffilm ar ddiwedd Semester 2. Mi fydd y tasgau hyn yn cynnwys gweithgareddau fel: ymchwil ymarferol; ymarferion mewn adrodd straeon gweledol; cyflwyniadau, trafodaethau a gwerthusiadau unigol a grŵp; ymarferion camera, sain a golygu. Mae'r semester cyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu prosiectau, mae'r ail yn canolbwyntio ar wireddu'r brif ffilm.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r materion cysyniadol, esthetig, moeseg a thechnegol sy’n codi wrth greu ffilm ddogfen. Rhoddir pwyslais ar y broses greadigol, yn hytrach na'r cynnyrch; anogir myfyrwyr i fyfyrio’n feirniadol fel grŵp ac unigolyn wrth wireddu’r ffilm olaf.

Cynnwys

Gan fod y modiwl yn cael ei yrru gan y prif brosiect cyflwynir y pynciau canlynol wrth anelu at y nod hwnnw:


1. Dulliau o ddewis pwnc, thema ac arddull
2. Methodoleg ymchwil
3. Archifau: dulliau ymchwil, hawliau a materion technegol
4. Traddodiadau newyddiadurol, arsylwu a naratif
5. Technegau adrodd straeon gweledol
6. Ysgrifennu ac adolygu triniaeth, cyflwyno syniadau
7. Cynhyrchu: comisiynu ac amserlennu
8. Cynllunio a threfnu sesiwn ffilmio
9. Dulliau “recce”, ffeindio lleoliad a chyfweld
10. Materion moeseg
11. Technegau recordio camera, sain a golygu
12. Technegau cyfarwyddo

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig drwy ymarferion, seminarau, cyflwyniadau ac adborth ar waith ysgrifenedig. Mae rhywfaint o asesiad o'r sgil hon o fewn y ffilm olaf a'r portffolio creadigol a datblygu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn o werth nid yn unig i'r rhai sydd â nod gyrfa pendant yn y diwydiannau cyfryngau ond mae'n cynnig cyfleoedd i bob myfyriwr i ddatblygu'n bersonol. Gall darlithwyr gwadd o'r diwydiant hefyd ddarparu cyngor gyrfa penodol.
Datrys Problemau Mae gwneud ffilmiau yn broses barhaus o ddatrys problemau. Caiff myfyrwyr eu profi ar hyn yn unigol ac fel rhan o dîm.
Gwaith Tim Er nad yw'n cael ei asesu'n uniongyrchol, mae'r rhan fwyaf o ffurfiau cynhyrchu cyfryngau yn cynnwys gradd uchel o waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae gwneud ffilmiau dogfen yn broses barhaus o hunanasesu ac mae'r prosiect terfynol yn cynnwys hyn.
Rhifedd Mae gwaith camera a golygu angen gallu rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Gweler Subject Benchmark Statement for Communication, Media, Film and Cultural Studies (2008)
Sgiliau ymchwil Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil fel rhan o baratoi a datblygu'r prosiect terfynol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir cymhwysedd a chyfarwyddyd â thechnoleg gwybodaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6