Gwyddor Filfeddygol (Blwyddyn 1)
- Cod y Modiwl
- VS11500
- Teitl y Modiwl
- Gwyddor Filfeddygol (Blwyddyn 1)
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mrs Sharon King
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Cyd-Ofynion
-
VS11460
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Professor Darrell Abernethy
- Professor Mariecia Fraser
- Dr Debbie Nash
- Dr Iain Chalmers
- Mr Jonathan King
- Dr Sebastian Mcbride
- Dr Sophie Regnault
- Mr Jim Scott-Baumann
- Dr Manod Williams
- Dr Matthew Hegarty
- Mrs Becca Roberts
- Dr Russ Morphew
- Dr Beverley Hopkins
- Mrs Hannah Appleton
- Professor Glyn Hewinson
- Dr Pip Nicholas-Davies
- Dr Alexander Stoll
- Dr Ifat Shah
- Mrs Non Jones
- Mrs Sharon King
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd - PVP: 1500 o eiriau | 5% |
| Asesiad Semester | Arholiad - Llafar: 0.5 Awr Cyfnod Arholiadau Mis Mai .5 Awr | 20% |
| Asesiad Semester | Asesiad Llafar: 0.5 Awr Mae hwn yn asesiad ganol tymor .5 Awr | 10% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Labordy - PRIS1: 1000 o eiriau | 5% |
| Arholiad Semester | Asesiad MCQ: 1.5 Awr Mae hwn yn asesiad ganol tymor 1.5 Awr | 10% |
| Arholiad Semester | Asesiad SAQ: 1.5 Awr Mae hwn yn asesiad ganol tymor 1.5 Awr | 10% |
| Arholiad Semester | Arholiad - MCQ: 2 Awr Cyfnod Arholiadau Mis Mai 2 Awr | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad - SAQ: 2 Awr Cyfnod Arholiadau Mis Mai 2 Awr | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd - PVP: 1500 o eiriau | 5% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad - Llafar: 0.5 Awr .5 Awr | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Asesiad Llafar: 0.5 Awr .5 Awr | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Labordy - PRIS1: 1000 o eiriau | 5% |
| Arholiad Ailsefyll | Asesiad SAQ: 1.5 Awr 1.5 Awr | 10% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad - MCQ: 2 Awr 2 Awr | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Asesiad MCQ: 1.5 Awr 1.5 Awr | 10% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad - SAQ: 2 Awr 2 Awr | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Disgrifio adeiledd a gweithrediad arferol anifeiliaid gan gynnwys egwyddorion homeostasis a’r ffactorau sy’n gallu tarfu arnynt
- Dangos dealltwriaeth o swyddogaethau theori foesegol, meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a phroffesiynoldeb yng ngwaith y milfeddyg.
- Deall adeiledd sylfaenol a natur fiolegol micro-organebau a pharasitiaid, a chymhwyso'r rhain i imiwnoleg, pathogenesis a dulliau rheoli clefydau penodol.
- Disgrifio gofal anifeiliaid yng nghyswllt systemau cynhyrchu da byw, y diwydiant ceffylau ac anifeiliaid anwes, gan gynnwys dulliau rheoli, yr amgylchedd, maeth a'u hymddygiad arferol, a chymhwyso'r rhain wrth weithio gydag anifeiliaid penodol.
- Nodi cyfraniad ymchwil fiolegol sylfaenol i faes milfeddygaeth
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn cynnwys chwe "llinyn" a fydd yn cyflwyno’r myfyrwyr i hanfodion sylfaenol milfeddygaeth. Mae’r llinyn “Hwsmonaeth Anifeiliaid” yn rhoi cyflwyniad i ofal anifeiliaid a'r rhan y mae anifeiliaid yn ei chwarae yn ein cymdeithas. Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o anatomeg a ffisioleg prif systemau cyrff anifeiliaid, mewn tair llinyn: "Systemau Ymborth, Endocrinaidd a Throethgenhedlol", "Systemau Cardiofasgwlaidd, Resbiradol ac Ymsymudol" a "Niwroleg, Offthalmoleg a Synhwyrau Arbennig". Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o’r cysyniadau biolegol creiddiol yn y llinyn "Egwyddorion Gwyddoniaeth" sy'n cwmpasu meysydd fel clefydau heintus, patholeg, geneteg ac imiwnoleg. Yn olaf, mae’r llinyn "Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth” yn cyflwyno themâu pwysig o ran proffesiynoldeb, moeseg, sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
Nod
1. Rhoi trosolwg o adeiledd arferol meinwe, bioleg ddatblygiadol, ffisioleg, a hwsmonaeth anifeiliaid, gyda phwyslais ar dda byw domestig ac anifeiliaid anwes.
2. Datblygu’r sgiliau i weithio'n hyderus gyda da byw domestig ac anifeiliaid anwes a deall eu hymddygiad arferol.
3. Disgrifio adeiledd micro-organebau a pharasitiaid penodol, sut maent yn ymosod ar westeion anifeil, a'r dulliau a ddefnyddir gan fertebratau i’w gwrthsefyll.
4. Disgrifio prosesau genetig ar bob lefel o drefniadaeth (e.e. moleciwlaidd, cromosomaidd, poblogaeth) gan gyfeirio at adeileddau a chysyniadau priodol.
5. Disgrifio’r swyddogaethau a'r safonau sy’n ddisgwyliedig gan filfeddygon yn y proffesiwn.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnwys y llinynnau canlynol:
1. AEU: Systemau Ymborth, Endocrinaidd a Throethgenhedlol
2. CRLS: Systemau Cardiofasgwlaidd, Resbiradol ac Ymsymudol
3. PVP: Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth
4. AH: Hwsmonaeth Anifeiliaid
5. PRIS: Egwyddorion Gwyddoniaeth
6. NOSS: Niwroleg, offthalmoleg a synhwyrau arbennig.
Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol a dysgu hunangyfeiriedig, gyda phwyslais cryf ar weithio mewn grwpiau bach a datrys problemau.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon. |
| Cydlynu ag erail | Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn y ddau aseiniad ac yn y grwpiau tiwtorial. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd dysgu drwy mewn grwpiau bach, dosbarthiadau ymarferol, y gwaith cwrs a'r arholiadau yn cynnwys golygu datrys problemau. |
| Gallu digidol | Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at y gwaith cwrs a’r arholiad. Bydd sut fydd y gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno yn cael ei asesu. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio yn ddyfnach i bynciau ymchwil y tu hwnt deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r gwaith cwrs. |
| Myfyrdod | Mae myfyrio yn elfen amlwg a bwysleisir drwy gydol 5 mlynedd y cwrs BVSc. Yn BVSc 1 a BVSc 2, mae myfyrwyr yn cael cyfle i fyfyrio’n ffurfiannol a chyfansymiol ar eu profiadau mewn milfeddygfeydd, ar ffermydd, neu yn y Brifysgol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Yn ystod y modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am derminoleg filfeddygol, technegau labordy a chyfliniadau anatomegol. Bydd yr adroddiad labordy yn rhoi mewnwelediad i ysgrifennu gwyddonol. |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn gan hwyluso eu datblygiad proffesiynol. Nid asesir yr agwedd hon. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk English and Creative Writing,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622534 : +44 : +44 (0)1970 622021
english@aber.ac.uk: english@aber.ac.uk
