Sgiliau ar gyfer Biolegwyr

Cod y Modiwl
BG16800
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Arwyn Edwards
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Scott Tompsett
Dr Ruth Wonfor
Dr Dylan Gwynn Jones
Dr Ifat Shah
Professor David Whitworth

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cyflwyniad llafar grwp: 5 Munud 35%
Asesiad Semester Adroddiad: 2000 o eiriau 65%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar: 5 Munud 35%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad: 2000 o eiriau 65%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.
  2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.
  3. Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd.
  4. Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
  5. Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
  6. Dehongli a defnyddio data.
  7. Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
  8. Dilyn protocol arbrofol
  9. Cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata arbrofol yn briodol
  10. Cyflwyno data/cysyniadau trwy amrywiaeth o gyfryngau

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig o'r modiwl yw i roi cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyfres o arbrofion cysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ar draws bioleg. Datblygir sgiliau gweithio mewn grŵp trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn rhoi arweiniad ar gyflwyno/dehongli data arbrofol.

Nod

Trwy gyfuniad o ddarlithoedd rhagarweiniol ffurfiol, wedi'u hategu gan sesiynau tiwtorial gyda thiwtoriaid personol, nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i a gwella eu sgiliau astudio a chyfathrebu. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth, Meddwl yn feirniadol, rhesymu anwythol a diddwythol, Moeseg ymchwil a Thrin a dadansoddi data

Mae angen cyflwyniad cynnar i set o sgiliau labordy moleciwlaidd sylfaenol ar fyfyrwyr sy'n astudio gwyddorau biolegol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio cyfres o arbrofion integredig i gyflwyno myfyrwyr i'r technegau sylfaenol hyn. Bydd sgiliau gweithio mewn grŵp yn cael eu datblygu trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn darparu arweiniad ar gyfer cyflwyno/dehongli data arbrofol.

Cynnwys

Semester 1
x5 o ddarlithoedd 1 awr rhagarweiniol ffurfiol dros 5 wythnos gyntaf semester 1
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)

Semester 2
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Yn wythnos 1, bydd myfyrwyr yn mynychu cyfres o ddosbarthiadau labordy cysylltiedig bob prynhawn

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli amser a chwrdd â therfynau amser. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau a'u hoffterau dysgu eu hunain a nodi eu hanghenion a'u rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol.
Cydlynu ag erail Gwneir yr ymchwil ar gyfer y prosiect mewn grwpiau tiwtor personol i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniadau o weithio mewn tîm, ac, yn seiliedig ar adborth gan y grŵp, mae'n ofynnol i diwtoriaid roi sylwadau ar gyfraniad aelodau unigol o'r grŵp tuag at gyflawni'r allbynnau grŵp gofynnol.
Cyfathrebu proffesiynol Mae'r traethawd ffurfiannol, adroddiad prosiect a chyflwyniad seminar, gyda'r adborth manwl a ddarperir gan diwtoriaid personol, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyfathrebu.
Datrys Problemau Creadigol Gellir cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu’r ddamcaniaeth i danategu eu prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn.
Gallu digidol Ar draws yr aseiniadau amrywiol, mae gofyn i fyfyrwyr ddangos defnydd effeithiol o ystod o becynnau meddalwedd TG perthnasol (Word, Excel, PowerPoint).
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd briodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd wneud sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a fabwysiadwyd.
Sgiliau Pwnc-benodol Cymhwyso rhif: Casglu a chraffu ar ddata o ran ansawdd a swm. Dehongli data. Bydd cysyniadau pwnc-benodol yn ymwneud â biocemeg, geneteg a microbioleg yn cael eu datblygu. Bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o arbrofi mewn labordy, a defnyddio dulliau labordy cyffredin yn briodol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4