Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr

Cod y Modiwl
CT13120
Teitl y Modiwl
Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu LC12220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC13120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Bethan Poyser

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Aseiniad 1: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad thematig 1500 o eiriau 40%
Asesiad Semester Aseiniad 2: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio prosiect ymchwil ansoddol 1500 o eiriau 40%
Asesiad Semester Perfformiad Seminar: 20%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad yn lle perfformiad seminarau: 1000 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 2: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio prosiect ymchwil ansoddol, gan ddefnyddio senario Troseddegol amgen. 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad thematig, gan ddefnyddio darn arall o ddata ansoddol. 1500 o eiriau 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Defnyddio sgiliau academaidd trosglwyddadwy, megis deall sut i ysgrifennu a chyfeirio mewn ffordd sy'n gadarn yn academaidd
  2. Deall hanfodion datblygu a dylunio ymchwil.
  3. Deall sut i gynnal dadansoddiad thematig
  4. Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol fanteision a chyfyngiadau dyluniadau dulliau ymchwil ansoddol.
  5. Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol o sut i asesu astudiaethau ymchwil troseddegol empirig yn feirniadol.

Disgrifiad cryno

Mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, datblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweld ac arolygu un i un.

Cynnwys

Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:

Sgiliau academaidd trosglwyddadwy, gan gynnwys ysgrifennu a chyfeirio academaidd
Dylunio ymchwil ansoddol a methodoleg
Elfennau o ymchwil ansoddol
Deall a chymhwyso math sylfaenol o ddadansoddiad ansoddol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu sut i ysgrifennu i safon academaidd uchel, a sut i gymhwyso cyfeiriadau Harvard i'w gwaith, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu cyhoeddiadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn wedi'i wreiddio'n fawr yn y byd go iawn, a sut y gellir cynnal ymchwil gyda phobl go iawn. Bydd y ddau aseiniad yn gofyn iddynt redeg gweithgaredd ymchwil gyda rhywun y tu allan i'r cwrs, a myfyrio ar ba mor dda y gweithiodd yr offer gyda phobl go iawn mewn cymdeithas.
Datrys Problemau Mae ethos cyfan y modiwl yn troi o gwmpas datrys problemau. Dyma hanfod ymchwil gwyddorau cymdeithasol ac felly bydd y modiwl yn ymwneud yn helaeth ag annog a meithrin y sgil hon.
Gwaith Tim Bydd y ddau aseiniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr weithio gydag un arall i gynhyrchu a) amserlen gyfweld a b) holiadur arolwg (er y bydd yr aseiniadau'n cael eu hysgrifennu'n unigol). Bydd y seminarau a'r gweithdai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd drwyddi draw mewn ffordd ymarferol iawn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dyluniadau eu hunain o gyfweliad ac arolwg, sy'n gofyn am lefel dda o fyfyrio personol ar eu datblygiad a'u dysgu eu hunain.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil, pe byddent yn penderfynu ymgymryd a thraethawd hir empirig yn eu trydedd flwyddyn.
Sgiliau ymchwil Mae gofyn i fyfyrwyr wneud y gwaith o ddylunio a chyflwyno cyfweliad lled-strwythuredig gyda phartner. O'r herwydd, bydd gofyn iddynt ddeall a chymhwyso elfennau cymhleth dylunio ymchwil ansoddol
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu deunyddiau ar Blackboard, ond hefyd i ddefnyddio rhaglen arolwg ar-lein i gwblhau eu hail aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4