Prif Brosiect

Cod y Modiwl
EGM5800
Teitl y Modiwl
Prif Brosiect
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Dave Langstaff
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
EE37040 neu EG37040
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
EEM5860
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PHM5860
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
FGM5860
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cynnydd: (Bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) 10%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddiaeth: (Gall unigolyn gyflwyno'i adolygiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno.) 15%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar: (Yn Gymraeg) 15%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol: (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno.) 60%
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu. 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Ymchwilio problem benodol sy’n berthnasol i Drydan ac Electroneg.
  2. Gwerthuso datblygiadau diweddar yn y maes o ddiddordeb fel a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnir.
  3. Trefnu a chydlynu eu gwaith er mwyn cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil estynedig.
  4. Dehongli a thrafod eu prosiect/arddangosydd yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.
  5. Cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a'r cynllunio yn ystod cyfnod cychwynnol y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn cyflawni prosiect sydd fel arfer mewn grŵp ymchwil o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.

Cynnwys

Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu proffesiynol Mae angen cyfathrebu a sgiliau lythrennedd i gyflwyno canfyddiadau mewn cyflwyniad llafar ac adroddiad ysgrifenedig.
Datrys Problemau Creadigol Mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol wrth ymateb i ganlyniadau cychwynnol ac addasu strategaethau prosiect yn unol â hynny.
Gallu digidol Mae offeryniaeth a chyfrifiaduron yn hanfodol i gyflawni prosiect, dadansoddi data a chyflwyno canlyniadau.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Mae defnyddio rhif yn hanfodol i ddadansoddi data, gan gynnwys lledaeniad cyfeiliornadau.
Myfyrdod Mae myfyrio ar ganlyniadau gwaith labordy i gynllunio gwaith pellach yn datblygu hunan-ddysgu a pherfformiad.
Sgiliau Pwnc-benodol Gwybodaeth am dechnegau ymchwil perthnasol, e.e. ieithoedd rhaglennu, offeryniaeth.
Synnwyr byd go iawn Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd Peirianneg Drydanol ac Electronig ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7