Prif Brosiect
- Cod y Modiwl
- EGM5860
- Teitl y Modiwl
- Prif Brosiect
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Dave Langstaff
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
EE37040 neu EG37040
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
EEM5860
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
PHM5860
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
FGM5860
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cynnydd: (Bydd naill ai y goruchwylydd yn siarad Cymraeg, neu caiff aelod o staff sy'n medru'r iaith ei g(ch)lustnodi i ddarparu cefnogaeth terminoleg law-yn-llaw gyda chyfarwyddyd y goruchwylydd.) | 10% |
| Asesiad Semester | Adolygiad Llenyddiaeth: (Gall unigolyn gyflwyno'i adolygiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno.) | 15% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar: (Yn Gymraeg) | 15% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Ffurfiol: (Gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno.) | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno cydrannau sydd wedi'u methu. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Ymchwilio problem benodol sy’n berthnasol i Drydan ac Electroneg.
- Gwerthuso datblygiadau diweddar yn y maes o ddiddordeb fel a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnir.
- Trefnu a chydlynu eu gwaith er mwyn cynllunio a gweithredu prosiect ymchwil estynedig.
- Dehongli a thrafod eu prosiect/arddangosydd yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.
- Cyflwyno ac amddiffyn eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Disgrifiad cryno
Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a'r cynllunio yn ystod cyfnod cychwynnol y modiwl hwn, mae'r myfyriwr yn cyflawni prosiect sydd fel arfer mewn grŵp ymchwil o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.
Cynnwys
Mae testun ymchwil gwahanol ar gyfer pob prosiect.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu proffesiynol | Mae angen cyfathrebu a sgiliau lythrennedd i gyflwyno canfyddiadau mewn cyflwyniad llafar ac adroddiad ysgrifenedig. |
| Datrys Problemau Creadigol | Mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol wrth ymateb i ganlyniadau cychwynnol ac addasu strategaethau prosiect yn unol â hynny. |
| Gallu digidol | Mae offeryniaeth a chyfrifiaduron yn hanfodol i gyflawni prosiect, dadansoddi data a chyflwyno canlyniadau. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Mae defnyddio rhif yn hanfodol i ddadansoddi data, gan gynnwys lledaeniad cyfeiliornadau. |
| Myfyrdod | Mae myfyrio ar ganlyniadau gwaith labordy i gynllunio gwaith pellach yn datblygu hunan-ddysgu a pherfformiad. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Gwybodaeth am dechnegau ymchwil perthnasol, e.e. ieithoedd rhaglennu, offeryniaeth. |
| Synnwyr byd go iawn | Mae llawer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd Peirianneg Drydanol ac Electronig ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
Physics,Aberystwyth University, Physical Sciences Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622802 : +44 : +44 (0)1970 622021
phys@aber.ac.uk: phys@aber.ac.uk
